Llun a Chyflwyniad

Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Strategol Ansawdd: Safonau Proffesiynol
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Ffôn: 01792 482071
E-bost: rachel.bendall@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Arweinydd Strategol ar Safonau Proffesiynol
- Arweinydd Pwnc CGM (Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg / Addysg Grefyddol) ar y rhaglen TAR
- Tiwtor Cwricwlwm ar y rhaglenni TAR a BA Addysg
- Arweinydd modiwl
- Aseswr aseiniadau (Lefel 4-7)
Cefndir
Yn ystod gyrfa 14 mlynedd fel athrawes ysgol uwchradd, ymgymerodd Rachel â sawl rôl fel Pennaeth Adran (Addysg Grefyddol) ac Uwch Arweinydd Asesu a Llythrennedd. Yn ystod yr amser hwnnw, mwynhaodd Rachel rôl weithredol hefyd fel mentor i fyfyrwyr TAR ac fel marciwr allanol ar gyfer arholiadau TGAU.
Ar hyn o bryd, fel Uwch Ddarlithydd, mae Rachel yn ymwneud â darparu modiwlau i fyfyrwyr Cynradd ac Uwchradd TAR yn ogystal ag arwain ar fodiwl ar gyfer myfyrwyr BA (Addysg) yn eu hail flwyddyn. Fe arweiniodd ar nifer o agweddau ar bartneriaeth rhaglenni AGA gydag ysgolion am chwe blynedd cyn ymgymryd â’i rôl bresennol o fewn ansawdd a safonau proffesiynol. Mae Rachel hefyd yn falch o weithredu fel Arolygydd Cymheiriaid AGA ar gyfer Estyn.
Ar hyn o bryd mae Rachel yn astudio ar y cwrs meistr mewn addysg (MA Addysg).
Aelod O
- Aelod o PYCAG - Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol
- Aelod o CYSAG Abertawe – Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol
- Arolygydd Cymheiriaid AGA Estyn
Diddordebau Academaidd
- Arwain y Dysgu: beth ydw i’n ei addysgu?
- Ymchwilio’r Dysgu: pam ydw i’n addysgu?
- Dysgwyr, ysgolion a chymunedau: ble ydw i’n addysgu?
Meysydd Ymchwil
- Gweithio ar hyn o bryd tuag at radd Meistr mewn Addysg
- Addysgu a dysgu
- Arweinyddiaeth a rheolaeth
Arbenigedd
- Addysgu a dysgu
- Sut mae darpar athrawon yn dysgu
- Dysgu Proffesiynol
- Safonau Proffesiynol
Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori
Wedi gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar ddatblygiadau sy’n ymwneud ag Addysg Grefyddol, yn enwedig wrth nodi meysydd sydd angen adnoddau ychwanegol a chyfieithu adnoddau cyfredol o’r Saesneg i’r Gymraeg.
Wedi gweithio fel ymgynghorydd i’r BBC ar eu prosiect E-Clips a diweddaru eu gwefan Astudiaethau Crefyddol Bitesize.
Yn fwy diweddar wedi gweithio fel ymgynghorydd addysgol i’r BBC a Grain Media ar greu adnoddau fideo ar gyfer ystafell ddosbarth AG a’r Dyniaethau.
Cyhoeddiadau
Prifysgol Glasgow a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (2017), Dysgu am Ddilyniant: Llywio meddwl am Gwricwlwm i Gymru, Adroddiad Dros Dro gan Brosiect CAMAU.
Gwybodaeth bellach
Rwy’n trefnu’r Gynhadledd Addysg GrefyddolG flynyddol a gynhelir yn PCYDDS ochr yn ochr â Lat Blaylock o RE Today.