Profiad PCYDDS Sara
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Sara Gray
Rhaglen: BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Profiad Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff Sara
Profiad Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff Sara

Beth oedd eich hoff beth am campws Caerfyrddin?
Agosatrwydd y campws ac argaeledd cyfleusterau. Mae gan Therapi Chwaraeon adeilad pwrpasol sy’n sicrhau bod gofod addysgu priodol ar gael yn barod. Mae’r ‘ardal gyffredin’ yn yr adeilad wir yn helpu i feithrin yn berthynas rhwng y carfannau ac mae ymdeimlad o gymuned gan y cwrs. Mae gwir ymdeimlad o deulu yn y cwrs lle mae’r myfyrwyr mwy profiadol yn cefnogi’r myfyrwyr newydd trwy eu hastudiaethau.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Caiff y radd Therapi Chwaraeon ei hardystio gan y Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon, sy’n golygu y caiff ei myfyrwyr eu haddysgu i lefel a gydnabyddir gan y diwydiant chwaraeon. Hefyd, am ei bod yng Nghaerfyrddin, roedd yn agos i adref a oedd yn galluogi i mi gymudo a chynnal fy ymrwymiadau gwaith/bywyd.
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Y cyfleoedd galwedigaethol a gyflwynwyd o’r flwyddyn gyntaf, roedd cynllun y cwrs yn caniatáu i mi archwilio fy sgiliau newydd a dechrau adeiladu profiad a rhwydweithio wrth astudio, a ddechreuodd fy llwybr gyrfa.
Sut mae Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi eich helpu yn eich gyrfa?
Gwnaeth cwblhau fy ngradd newid fy ngyrfa yn llwyr. Cyn astudio roeddwn yn gweithio i gwmni yswiriant; mae’r radd wedi fy ngalluogi i ddechrau gyrfa fel Therapydd Chwaraeon. Bues yn ffodus iawn cael lleoliadau gwaith fel myfyriwr a arweiniodd at waith cyflogedig. Rhoddodd hyn brofiad i mi o anafiadau cymhleth a hirdymor gan adeiladu cyfoeth o brofiad. Mae hyn wedi ymestyn i fae pêl-droed uwch rhyngwladol. At hyn, mae cynllun y cwrs, medrau a bod yn gyfarwydd â’r cynnwys wedi galluogi i mi drosglwyddo fy sgiliau i fyd addysg a chymhwyso’r rhain i addysgu’r genhedlaeth nesaf o Therapyddion Chwaraeon.

Beth oedd eich hoff beth am Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ?
Ei gyfuniad unigryw o feddyginiaeth Cyhyrysgerbydol a Chwaraeon. Gwnaeth defnyddio egwyddorion Chwaraeon ac Ymarfer Corff i atgyfnerthu’r wybodaeth waith drwy gydol y cwrs gradd ei wneud yn berthnasol i’r diwydiant a’m paratoi ar gyfer gyrfa ym maes Chwaraeon.