ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Seicoleg a Throseddeg (Llawn Amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd
96 Bwyntiau UCAS

Mae ein rhaglen BSc Seicoleg a Throseddeg yn berffaith i fyfyrwyr sy’n dymuno archwilio dau bwnc cyffrous a phwysig.  Drwy astudio’r cwrs hwn, cewch ddealltwriaeth fanwl o ymddygiad dynol a’r meddwl dynol, tra byddwch hefyd yn dysgu am achosion, canlyniadau, ac atal troseddu. 

Mae’r radd Seicoleg a Throseddeg wedi’i llunio i roi i chi’r gorau o’r ddau fyd. Mae seicoleg yn eich helpu i ddeall pam bod pobl yn meddwl ac yn gweithredu yn y ffordd y maent, a byddwch yn archwilio pynciau fel datblygiad dynol, personoliaeth a gwahaniaethau unigol, a phatrymau ymddygiad. Bydd modylau troseddeg yn ffocysu ar drosedd: achosion trosedd, y system cyfiawnder troseddol, ac achosion a chanlyniadau ymddygiad troseddol. Mae’r cyfuniad hwn yn eich paratoi am ystod o gyfleoedd gyrfa mewn meysydd megis seicoleg fforensig, cyfiawnder troseddol, a rhagor.

Mewn troseddeg, byddwch yn edrych ar pam mae pobl yn troseddu a sut mae cymdeithas yn ymateb i droseddau.  Mae hyn yn cynnwys astudio ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymddygiad gwyrdröedig, ac effaith troseddu ar gymunedau.  Byddwch hefyd yn dysgu am ddamcaniaeth droseddegol, sy’n helpu i esbonio troseddu o wahanol safbwyntiau. 

Mae ein rhaglen yn cynnig safbwynt rhyngwladol, gan ganiatáu i chi weld sut mae troseddu a chyfiawnder yn gweithio mewn gwledydd gwahanol.  Mae hyn yn bwysig oherwydd bod troseddu’n fater byd-eang, ac mae ei ddeall yn gofyn am edrych tu hwnt i un wlad.  Byddwch hefyd yn archwilio cyd-destunau cyfreithiol a chyd-destunau troseddol, sy’n hollbwysig i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ym myd y gyfraith neu gyfiawnder. 

Mae astudio seicoleg a throseddeg gyda’i gilydd yn agor llawer o ddrysau.  Gallech weithio ym maes polisi cymdeithasol, gan helpu i lunio’r deddfau a’r rheolau sy’n effeithio ar fywydau pobl.  Gallech ddod yn gwnselydd, gan ddefnyddio eich gwybodaeth am gymhelliad dynol ac ymddygiad i helpu pobl eraill.  Neu, gallech weithio ym maes atal troseddu, gan ddatblygu ffyrdd newydd o gadw cymunedau’n ddiogel. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
PSC1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd
Gofynion mynediad:
96 Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hon?

01
Bydd y cwrs hon yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i chi o ymddygiad troseddol, datblygiad dynol, gwahaniaethau unigol, gwybyddiaeth a phrosesau cymdeithasol
02
Bydd y modiwlau troseddeg yn archwilio pam fod ymddygiad troseddol yn digwydd, sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithredu, a sut y gallwn ni geisio atal troseddu
03
Trwy gydol eich cwrs byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr ym meysydd seicoleg a throseddeg, gan gyfuno arbenigedd o Ddisgyblaethau Academaidd Seicoleg a Chwnsela a'r Academi Golau Glas

Beth fyddwch yn dysgu?

Rydym yn credu mewn dull ymarferol ar gyfer dysgu, gan ganolbwyntio ar y myfyriwr. Mae ein gradd Seicoleg a Throseddeg yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiadau ymarferol i’ch paratoi am heriau o’r byd go iawn wrth ddeall a mynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad dynol. 


Blwyddyn 1


Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn seicoleg a throseddeg.  Byddwch yn astudio meysydd seicoleg creiddiol megis datblygiad dynol a phersonoliaeth, tra byddwch hefyd yn archwilio achosion troseddu ac ymddygiad troseddol.  Eleni mae’r ffocws ar ddeall yr hanfodion o ran sut mae pobl yn meddwl a pham mae troseddau’n digwydd.


Blwyddyn 2


Mae’r ail flwyddyn yn twrio’n fwy manwl i batrymau ymddygiad a damcaniaeth droseddegol.  Byddwch yn archwilio proses cyfiawnder troseddol a rhagfarn a gwahaniaethu, ac yn dysgu am fregusrwydd a troseddu a’i gydrannau amrywiol. Mae’r flwyddyn hon yn gwella eich gallu i ddadansoddi troseddu o nifer o safbwyntiau a deall effeithiau cymdeithasol gweithgarwch troseddol.


Blwyddyn 3


Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau arbenigol a chymwysiadau ymarferol.  Mae hyn yn cynnwys seicoleg fforensig, atal troseddu, ac archwilio cyd-destunau cyfreithiol a chyd-destunau troseddol.  Mae’r flwyddyn hon wedi’i llunio i atgyfnerthu eich dysgu a’ch paratoi am lwyddiant proffesiynol. 
 

Dulliau Ymchwil I

(20 credydau)

Materion Cysyniadol a Hanesyddol mewn Seicoleg

(20 credydau)

Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg

(20 credydau)

Personoliaeth a Gwahaniaethau Unigol

(20 credydau)

Proses Gyfreithiol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Droseddeg

(20 credydau)

Cynhwysiant Cymdeithasol, Erledigaeth a Lles

(20 credydau)

Deall Trosedd, Cyfiawnder a Chosb

(20 credydau)

Yr Ymennydd, Bioleg a Gwybyddiaeth

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil II

(20 credydau)

Seicoleg Datblygiad a Gwahaniaethau Unigol

(20 credydau)

Gwirfoddoli: Y Porth i Gyflogaeth

(20 Credydau)

Trosedd a Bregusrwydd

(20 credydau)

Rhywedd, Hil, Crefydd a Throsedd

(20 credydau)

Seicoleg Fforensig a’r Meddwl Troseddol

(20 credydau)

Prosiect Empirig Seicoleg

(40 credydau)

Seicoleg Rhagfarn a Gwahaniaethu

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gwneir cynigion nodweddiadol o 96 pwynt tariff.

    Rydym yn rhoi pwys mawr ar annog myfyrwyr mynediad ansafonol sydd â sgiliau bywyd perthnasol a photensial academaidd i ymuno â’n cwrs.

  • Mae’r rhaglen yn defnyddio ystod o wahanol ddulliau asesu i roi cyfle i fyfyrwyr ymestyn eu sgiliau ymarferol ac academaidd ac annog dysgu annibynnol.

    Mae’r rhain yn cynnwys dulliau asesu arloesol megis posteri academaidd, asesiadau sgiliau yn y dosbarth, cyflwyniadau grŵp ac unigol, adroddiadau ymchwil a chynigion ymchwil, yn ogystal ag asesiadau traddodiadol megis traethodau academaidd ac arholiadau.

  • Mae’n bosibl y bydd gofyn i fyfyrwyr wneud cais a sicrhau Gwiriad Manylach PCYDDS gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae’r ffi am hyn yn dibynnu ar y DBS; mae tua £44 ar hyn o bryd.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae myfyrwyr sy’n graddio gydag o leiaf ddosbarth anrhydedd ail ddosbarth is (2:2) yn gymwys ar gyfer Sail Raddedig Aelodaeth Siartredig (GBC) Cymdeithas Seicolegol Prydain (yn dilyn cymeradwyaeth achrediad gan y BPS).

    Mae hyn yn dangos bod myfyrwyr wedi bodloni’r gofynion cwricwlwm sy’n deillio o ddatganiad meincnod pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (2023) ym maes Seicoleg ac yn aml mae’n rhagofyniad pwysig i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd ymlaen i astudiaeth neu hyfforddiant ôl-raddedig pellach mewn seicoleg.

    Dros y blynyddoedd, mae llawer o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i raglenni hyfforddiant ôl-raddedig cam II BPS (llwybrau poblogaidd yw rhaglenni Meistr mewn Seicoleg Glinigol, Seicoleg Alwedigaethol a Seicoleg Iechyd) i symud ymlaen o fewn maes Seicoleg benodol. Byddai myfyrwyr sy’n dymuno rhagori ym maes Troseddeg hefyd yn elwa o astudiaeth bellach mewn Seicoleg Fforensig neu Droseddeg a Chyfiawnder Troseddol.

    I’r rhai nad ydynt yn dymuno dilyn gyrfa mewn maes penodol o seicoleg neu droseddeg, cydnabuwyd ein graddedigion ers tro yn rhai sydd o werth i ystod o sefydliadau y tu hwnt i Seicoleg megis AD, Swyddog carchar, Hysbysebu, y Cyfryngau, Ymchwilydd Twyll, Ymchwil a Datblygu, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol (gyda phlant, oedolion ifanc neu oedolion bregus).