ϳԹ

Skip page header and navigation

Yn ddiweddar croesawyd yn ôl un o’n graddedigion talentog, Tyra Oseng-Rees, ar gyfer darlith wadd ddiddorol gyda myfyrwyr o’n rhaglenni Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth. Yn arloeswr mewn uwchgylchu gwastraff gwydr i ryfeddodau pensaernïol, rhannodd Tyra ei thaith entrepreneuraidd ysbrydoledig a’i hangerdd am ddylunio cynaliadwy, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol i groesawu cynaliadwyedd yn eu gwaith.

Menyw yn cymryd hun-lun o flaen desg derbynfa wedi'i wneud o wydr yn adeilad IQ PCYDDS

Dechreuodd taith academaidd Tyra ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2003 pan ymunodd ag Athrofa Addysg Uwch Abertawe (bellach yn PCYDDS) i gwblhau ei gradd baglor mewn Dylunio Cynnyrch. Yn ystod y cyfnod hwn arbrofodd gyntaf gyda gwydr wedi’i ailgylchu, gan archwilio i’w ddefnydd mewn slabiau palmant ar gyfer pobl ag amhariad ar y golwg. Sbardunodd y prosiect cynnar hwn ei hangerdd am ddeunyddiau cynaliadwy a’i gosod ar lwybr a fyddai’n llywio ei gyrfa.

Parhaodd ei gorchwylion academaidd wrth iddi ddechrau ar ymchwil PhD, gan ddatblygu a phrofi deunyddiau gwydr wedi’u hailgylchu a’u toddi i’w gilydd. Gosododd y gwaith hwn y sylfaen ar gyfer ymdrechion arloesol Tyra i ailbwrpasu gwastraff gwydr yn gynhyrchion pensaernïol uchel eu gwerth - maes y byddai’n ei lunio iddi hi ei hun yn y pen draw.

Yn benderfynol o droi ei hymchwil yn gymwysiadau yn y byd go iawn, symudodd Tyra i’r byd entrepreneuraidd, gan ddechrau ei busnes ei hun, sef . Gan ddibynnu ar gynilion personol a chefnogaeth mentor a roddodd ofod stiwdio iddi, dechreuodd Tyra grefftio gwaith celf pwrpasol o wydr wedi’i ailgylchu. Wedi’i leoli yng Nghymru, mae ei busnes yn arbenigo mewn trawsnewid deunyddiau sydd wedi’u taflu - yn amrywio o boteli a gwydr adeiladu i ffenestri ceir - yn osodiadau pensaernïol a mewnol syfrdanol sy’n lleihau olion traed carbon ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd.

Un o’r enghreifftiau nodedig a rannodd Tyra gyda’r myfyrwyr oedd prosiect cydweithredol gyda staff a myfyrwyr PCYDDS - creu desg derbynfa drawiadol o wydr ar gyfer yr adeilad IQ ar gampws SA1 Glannau Abertawe. Wedi’i gwneud o 3,000 o boteli gwydr wedi’u taflu, mae’r nodwedd hon yn ymgorffori egwyddorion dylunio cylchol ac arloesi cynaliadwy. Gallwch ddarganfod mwy am stori a phroses y ddesg dderbynfa o wydr ar

Wrth siarad am ei phrofiad gyda’r myfyrwyr, dywedodd Tyra: 

“Roedd cael y cyfle i siarad â’r myfyrwyr am fy musnes arloesol sy’n uwchgylchu gwastraff gwydr i brosiectau pensaernïol yn wych. Roedd eu cwestiynau’n taflu goleuni ar sut mae eraill yn canfod fy ngwaith, ac roedd eu cyfranogiad gweithredol yn fy anerchiad yn hynod werthfawr. 

“Roedd y sgyrsiau a gefais gyda myfyrwyr ar ôl yr anerchiad, ynghyd â’u diddordeb brwd mewn ymgorffori gwydr wedi’i ailgylchu ac egwyddorion yr economi gylchol yn eu prosiectau eu hunain, yn atgyfnerthu pwysigrwydd rhannu gwybodaeth ac ysbrydoli newid.”

Roedd dychwelyd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i rannu ei phrofiad yn arbennig o ystyrlon i Tyra. Mae hi’n deall yn uniongyrchol yr heriau mae dylunwyr ac entrepreneuriaid ifanc yn eu hwynebu wrth geisio pontio’r bwlch rhwng y byd academaidd a diwydiant. Trwy siarad â myfyrwyr, mae’n gobeithio eu hannog i feddwl yn greadigol am gynaliadwyedd ac i dynnu sylw at bwysigrwydd dyfalbarhad, cydweithredu ac arloesi. Yn ogystal, mae rhoi yn ôl i’r sefydliad a luniodd ei gyrfa yn teimlo fel moment cylch cyflawn naturiol - cyfle i gefnogi ac ysbrydoli myfyrwyr sydd, fel hi, yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Rhannodd hefyd fewnwelediadau o’i gwaith diweddaraf - ailddatblygu’r ‘Buttermarket’ rhestredig Gradd II yng Nghernyw - a sut mae ei dull arloesol o uwchgylchu gwydr wedi ennill cydnabyddiaeth eang. Yn fwyaf diweddar, cafodd ei henwi’n Enillydd ‘Exterior Surface of the Year’ yn y ‘London Surface Design Show 2025’, gan ychwanegu at ei Gwobr Prestige Cymru 2023/24.

Wrth i Tyra barhau i wthio ffiniau dylunio uwchgylchu, mae ei dylanwad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’w phrosiectau ei hun - gan lunio’r ffordd y mae penseiri a dylunwyr y dyfodol yn ymdrin â deunyddiau, arloesedd a chyfrifoldeb amgylcheddol. Rydym yn ddiolchgar am ei hymweliad a’r ysbrydoliaeth y mae hi wedi’i drosglwyddo i’n myfyrwyr.

Os ydych yn gyn-fyfyriwr y Drindod Dewi Sant ac eisiau cynnig profiad tebyg i’n myfyrwyr drwy rannu mewnwelediadau i’ch diwydiant a’ch taith gyrfa, cysylltwch â alumni@pcydds.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon