O’r Chweched Dosbarth i’r Gyfraith: Fy Nhaith i Raglen CILEX Lefel 3
Bydd llawer yn ystyried mai’r llwybr traddodiadol i’r brifysgol yw’r ffordd safonol i lwyddiant, ond yn achos Lee-Angel Brown-Bennett, aeth ei thaith i’r gyfraith ar lwybr gwahanol, un sy’n cyd-fynd yn berffaith â’i dyheadau o ran gyrfa a’i nodau personol.
Heddiw, a hithau’n Baragyfreithiwr ar Brentisiaeth CILEX Lefel 3 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Paragyfreithiwr ar Brentisiaeth CILEX Lefel 3, ac yn gweithio yn adran Eiddo Blake Morgan yng Nghaerdydd, mae Lee-Angel yn esbonio pam mai dewis y llwybr prentisiaeth oedd y penderfyniad iawn iddi hi.

Y Llwybr i CILEX
“Dechreuodd fy nhaith â sylfaen academaidd gadarn. Es i’r ysgol o Flwyddyn 7 i 11 gan gyflawni graddau rhagorol gydol yr amser ac roeddwn ar y trywydd iawn i ddilyn llwybr traddodiadol i’r brifysgol. Fodd bynnag, ym Mlwyddyn 12, darganfyddais y llwybr prentisiaeth, a daniodd fy niddordeb ar unwaith. Roedd yn cynnig cydbwysedd unigryw o waith ymarferol a dysgu academaidd a fyddai, yn fy nhyb i, yn gweddu’n well i mi na’r llwybr traddodiadol i’r brifysgol.
Ar ôl ystyried yn ofalus, penderfynais beidio â pharhau i Flwyddyn 13. Yn lle hynny, gwnes gais am brentisiaeth gyfreithiol, penderfyniad a ysgogwyd gan apêl cael profiad yn y byd go iawn ar yr un pryd ag astudio. Roedd rhaglen CILEX Lefel 3 yn sefyll allan oherwydd ei dull ymarferol ar gyfer hyfforddiant cyfreithiol, gan fy ngalluogi i weithio wrth ochr gweithwyr proffesiynol profiadol a datblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau ar yr un pryd. Roedd osgoi dyled myfyriwr ac ennill cyflog tra oeddwn yn astudio’n fonws ychwanegol a gadarnhaodd fy newis.
Cydbwyso Gwaith ac Astudio
Mae gweithio ac astudio ar yr un pryd wedi bod yn heriol ac yn foddhaus. Rwyf bob amser wedi mwynhau astudio, felly mae dysgu ac adolygu’n dod yn naturiol i mi. Mae rhaglen prentisiaeth CILEX yn caniatáu i mi gymhwyso’r hyn rwy’n ei ddysgu yn f’astudiaethau yn uniongyrchol i’m rôl yn yr adran Eiddo. Mae cymhwyso gwybodaeth yn ymarferol fel hyn nid yn unig yn cadarnhau fy nealltwriaeth o’r gyfraith ond mae hefyd yn fy helpu i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i’m gyrfa.
Mae’r gefnogaeth rwyf wedi’i chael yn PCYDDS wedi bod yn eithriadol. Mae’r brifysgol yn darparu amgylchedd croesawgar a deniadol, gyda staff sydd bob amser wrth law i helpu gydag unrhyw heriau sy’n fy wynebu. Mae’r cydbwysedd rhwng dysgu academaidd a phrofiad ymarferol wedi bod yn rhan allweddol o’m llwyddiant, ac mae’r adnoddau sydd ar gael – megis cyngor gyrfaoedd, canllawiau aseiniadau, wedi bod yn ganolog wrth fy helpu i gadw ffocws a chymhelliad.
Mae gweithio mewn amgylchedd sy’n ysbrydoli gymaint wedi rhoi cyfleodd di-ben-draw i mi i rwydweithio, ehangu fy ngwybodaeth, a meithrin cysylltiadau proffesiynol. Mae natur ymarferol y brentisiaeth wedi gwneud y dysgu’n fwy deniadol a boddhaus, oherwydd gallaf weld effaith diriaethol fy ngwaith ar gleientiaid a’r busnes.
Wedi dweud hynny, mae cydbwyso dyddiadau terfyn academaidd â chyfrifoldebau gwaith wedi gofyn am ddisgyblaeth a sgiliau rheoli amser rhagorol. Yn ystod cyfnodau prysur, mae’n gallu bod yn heriol jyglo blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, ond rwyf wedi datblygu dull trefnus sy’n fy helpu i aros ar y trywydd iawn. Mae’r profiad wedi fy ngwneud i’n fwy gwydn a phenderfynol o gyflawni fy nodau, hyd yn oed yn wyneb heriau.
Ysbrydoliaeth ac Uchelgeisiau i’r Dyfodol
Mae’r brentisiaeth wedi f’ysbrydoli mewn llawer o ffyrdd. Mae gweld ochr ymarferol y gyfraith ar waith wedi dyfnhau fy niddordeb yn y maes. Mae gweld effaith fy ngwaith ar gleientiaid a’r broses gyfreithiol wedi bod yn hynod o foddhaus, sy’n fy nghymell i gadw i ddysgu a thyfu.
Gan edrych i’r dyfodol, fy nod yn y pen draw yw cymhwyso’n gyfreithiwr. Rwy’n dal i archwilio ym mha feysydd o’r gyfraith yr hoffwn efallai arbenigo, mae fy ngwaith cyfredol mewn cyfraith eiddo wedi bod yn foddhaus dros ben. Rwy’n dymuno gweithio mewn rôl lle gallaf gyfrannu at lwyddiant fy nghwmni, cefnogi cleientiaid, a pharhau â’m datblygiad proffesiynol tra rwy’n cael effaith gadarnhaol ar bobl eraill.
Cyngor i Ddarpar Brentisiaid Cyfreithiol
I’r rheini sy’n ystyried llwybr tebyg, fy nghyngor yw cadw ffocws, byddwch yn drefnus ac â meddwl agored. Mae prentisiaeth yn gofyn am ddisgyblaeth, yn enwedig pan fyddwch yn cydbwyso gwaith ac astudio, ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd dihafal am dwf. Mae’r profiad ymarferol yn gwneud i’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ddod yn fyw, ac mae’r sgiliau yn y byd go iawn y byddwch yn eu hennill yn amhrisiadwy ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Credwch yn eich galluoedd, hyd yn oed wrth wynebu heriau. Gall fod eiliadau o amheuaeth, ond bydd dyfalbarhau a phenderfyniad yn eich helpu i’w goresgyn.
Os ydych yn frwdfrydig ynghylch y gyfraith ac yn awyddus i dyfu, efallai mai hwn yw’r opsiwn perffaith i chi. Mae’n daith foddhaus sy’n rhoi i chi’r sgiliau, y wybodaeth, a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo yn y proffesiwn cyfreithiol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071