O Hyderabad i Abertawe: Taith Myfyriwr Rhyngwladol yn PCYDDS
Fel myfyriwr rhyngwladol o Hyderabad, India, mae astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi bod yn brofiad trawsffurfiol i Mukul Bakkolla.

Cwblhaodd Mukul ei addysg gynnar yn Academi’r Ivy League, cyn symud ymlaen i gwblhau’i addysg uwchradd yn Ysgol Gyhoeddus Delhi. Dywedodd Mukul fod yr ysgolion hyn wedi gosod sylfaen gref ar gyfer ei daith academaidd cyn dod i PCYDDS. Derbyniodd ysgoloriaeth i fyfyrwyr rhyngwladol o £3000 am bob un o’r tair blynedd, a oedd yn help enfawr i gefnogi’i addysg a gwneud astudio dramor yn fwy fforddiadwy.
Dewisodd Mukul astudio BA Rheolaeth Busnes Rhyngwladol ar gampws Abertawe PCYDDS oherwydd ei seilwaith cadarn, ei brisiau cystadleuol, a’i gymorth academaidd rhagorol. Ychwanega:
“Roedd e’n teimlo fel y lle iawn i gael addysg gadarn mewn amgylchedd cefnogol a fyddai’n fy helpu i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol.â€
Un o hoff bethau Mukul am astudio yn Abertawe yw’r traeth a’r awyrgylch heddychlon cyffredinol. Meddai:
“Roedd e’n teimlo fel y cydbwysedd perffaith rhwng amgylchedd prifysgol bywiog a lle llonydd i ymlacio. Daeth y Mwmbwls, yn arbennig, yn un o’m hoff leoedd i wylio’r haul yn machlud. Roedd yn ffordd ddelfrydol o fwrw’ch blinder wedi diwrnod prysur o astudio, ac roeddwn i’n dwlu ar y ffordd yr oedd gan y ddinas gymaint i’w gynnig ond yn dal i gadw naws cyfeillgar, croesawgar.â€
Bu’r profiad academaidd yn PCYDDS yn amhrisiadwy wrth lunio’i ddyheadau o ran gyrfa. Meddai:
“Mae fy nghwrs wedi rhoi dealltwriaeth eang i mi o lawer o agweddau ar fusnes. O gyllid i AD, marchnata, a hyd yn oed y gyfraith, rwyf wedi cael dealltwriaeth werthfawr o beth mae’n ei gymryd i adeiladu busnes llwyddiannus. Roedd y cwrs yn wir wedi fy mharatoi i ddeall yr heriau y mae busnesau’n eu hwynebu a’r atebion sy’n gallu gwneud iddyn nhw ffynnu.â€
Mae Mukul hefyd wedi sicrhau interniaeth farchnata drwy’r Brifysgol, sy’n cyd-fynd yn berffaith â’i nodau o ran gyrfa.
“Mae wedi bod yn brofiad gwych lle rwyf wedi ennill sgiliau ymarferol a chryfhau fy niddordeb mewn marchnata, a fydd yn werthfawr i fy ngyrfa yn y dyfodol.â€
Tu hwnt i fywyd prifysgol, mae Mukul wedi cymryd at hobïau newydd, gan ddatblygu cariad at ddarllen a chymdeithasu â’i ffrindiau.
“Mae pawb yma mor gyfeillgar, ac mae’n gymaint o hwyl treulio amser gyda’n gilydd – mae’n wir yn ychwanegu at y profiad myfyriwr yn gyffredinol.â€
Meddai Robyn Griffiths, Rheolwr Rhaglen BA Rheolaeth Busnes PCYDDS:
“Allwn i ddim fod yn fwy balch o Mukul Bakkolla. Mae’n wir wedi cymryd yr awenau ynghylch ei ddyfodol, gan ddangos yn union beth rydym yn gobeithio ei weld gan ein myfyrwyr Rheolaeth Busnes.
“Gydag awydd Mukul i sicrhau ei fod yn profi popeth sydd gan fyd rheoli busnes i’w gynnig iddo yn ystod ei astudiaethau, buom ni’n gweithio gyda’n gilydd i drefnu interniaeth sy’n gwneud y tro i’r dim iddo ac a oedd yn apelio at yr elfennau o gymhwyso ymarferol yr oeddwn i a Mukul wedi’u trafod yn fanwl. At hynny mae’r interniaeth eisoes wedi caniatáu iddo weithredu rhai o’r cysyniadau a’r modelau sydd wedi’u cyflwyno yn y rhaglen hyd yn hyn!
“Petai Mukul yn fusnes, mae’n eglur i’w holl ‘randdeiliaid’ nad yw’r cyfle hwn yn ymwneud ag ennill sgiliau a chwblhau aseiniadau’n unig; mae wedi’i deilwra i’w helpu i ragori ar ei lwybr gyrfa ymhell tu hwnt i’w gyfnod yn PCYDDS ac Ysgol Fusnes Abertawe. Mae stori Mukul yn enghraifft berffaith o’r modd rydym yn ymrwymo i sicrhau bod ein myfyrwyr yn profi cyfuniad o astudio academaidd â’r math o brofiad yn y byd go iawn sy’n wir yn cyfrif.â€
Wrth i Mukul adfyfyrio ar ei brofiad myfyriwr, dywedodd y byddai’n argymell PCYDDS i fyfyrwyr eraill.
“Mae’r sylw un-i-un a gawn gan ein darlithwyr yn amhrisiadwy, ac mae’r wybodaeth a gawn ymhob pwnc yn helaeth. Hefyd mae’r staff yn anhygoel o gyfeillgar a phob amser yn fodlon helpu, gan wneud yr holl brofiad prifysgol gymaint yn gyfoethocach.â€
Ar ôl graddio, mae Mukul yn gobeithio gweithio ym maes marchnata neu weinyddu busnes.
“Rwyf bob amser wedi bod â chariad mawr at y pynciau hyn, a byddant yn fy helpu pan fyddaf yn dilyn fy musnes fy hun yn y pen draw. Rwy’n awyddus iawn i adeiladu rhywbeth ystyrlon ac, er bod hynny’n swnio mor uchelgeisiol, rwy’n breuddwydio am greu brand gwerth biliwn o ddoleri ryw ddiwrnod.â€
Am fwy o wybodaeth am y cwrs BA Rheolaeth Busnes Rhyngwladol, ewch i: Rheolaeth Busnes Rhyngwladol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476