Profiad PCYDDS Kirsty
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Kirsty Jones-Higginson
Rhaglen: BSc Troseddeg a Phlismona
Profiad Troseddeg a Phlismona Kirsty
Profiad Troseddeg a Phlismona Kirsty

Beth oedd eich hoff beth am campws Abertawe?
Fy hoff beth am fod ar y campws busnes yw’r smwddis bendigedig yn y ffreutur, a chael darlithwyr cefnogol a gofalgar fel Laura a Sadie.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais PCYDDS gan fy mod wedi clywed eu bod ymysg y gorau o ran gwasanaethau i fyfyrwyr, ac roedd gen i ddiddordeb mawr mewn gwneud gradd ar y cyd mewn troseddeg a phlismona.
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Y tu allan i’r brifysgol, bues i hefyd yn Wirfoddolwr Myfyrwyr yr Heddlu (PSV) gyda Heddlu De Cymru, ac roeddwn i’n gweithio hefyd tra’r oeddwn i’n gwneud fy ngradd. Yn ogystal â threulio’r rhan fwyaf o’m hamser sbâr yn cerdded neu yn y gampfa
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Yn y dyfodol, hoffwn yrfa gyda’r heddlu a dilyn y llwybr carlam i fod yn dditectif, a gweld ble aiff hynny â fi. Rwy’n gobeithio gallu cyflawni llawer mewn gyrfa o’r fath, gan fod gen i ddiddordeb yn y maes erioed.
Beth oedd eich hoff beth am Troseddeg a Phlismona ?
Mae’r cwrs wedi gwella fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o sawl gwahanol agwedd ar blismona, yn ogystal â dysgu am yr ochrau mwy ymchwiliol o fewn troseddeg. Mae gwirfoddoli gyda Heddlu De Cymru wedi caniatáu i mi ennill mwy o brofiad ar y rheng flaen, a ches fod yn rhan o lawer o wahanol weithgareddau.

A fyddech chi'n argymell PCYDDS a pam?
Byddwn yn argymell PCYDDS. Roedd y gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr yn y darlithoedd yn dda. Mae’r staff yn gyfeillgar ac ar y cyfan mi wnes fwynhau astudio fy ngradd.