Llwybr at Lwyddiant: Grymuso Dysgwyr yn Y Drindod Dewi Sant (Caerdydd)
Ynglŷn â'r digwyddiadau hyn
Mae ein digwyddiadau Llwybr at Lwyddiant: Grymuso Dysgwyr yn Y Drindod Dewi Sant wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer ymgeiswyr sy’n trosglwyddo i’r brifysgol. Rydyn ni’n yn deall y gall symud i amgylchedd dysgu newydd fod yn gyffrous ac yn heriol, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.
Mae trosglwyddo’n achosi cymysgedd o emosiynau - cyffro, gobaith, straen a phryder. Mae’r teimladau hyn yn hollol normal. Nod ein digwyddiadau ni yw eich helpu chi i reoli’r emosiynau hyn, troi heriau’n gyfleoedd a’ch grymuso i fod y dysgwr annibynnol, llwyddiannus y gwyddom ni y gallwch chi fod.
Pwy ddylai ddod
Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u hanelu’n bennaf at:
- Ymgeiswyr ASC: Unigolion â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig.
- Ymadawyr Gofal: ymgeiswyr sydd wedi bod mewn gofal maeth neu’r system ofal ac sy’n trosglwyddo i fyw’n annibynnol ac addysg.
- Ymgeiswyr Aeddfed sy’n Dychwelyd i Addysg: Unigolion sy’n dychwelyd i addysg, yn aml sy’n cydbwyso astudiaethau â chyfrifoldebau eraill fel gwaith neu fywyd teuluol.
Ymgeiswyr Prifysgol Cenhedlaeth Gyntaf: Y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i’r brifysgol.
Beth i'w ddisgwyl yn y digwyddiad
Yn y digwyddiad hwn, byddwch chi’n:
- Dysgu am y gwasanaethau cymorth yn y brifysgol ac yn cwrdd â rhai o’r staff a fydd yma i’ch helpu.
- Darganfod y campws a’r amgylchedd dysgu.
- Cael clywed gan fyfyrwyr sydd wedi profi newidiadau tebyg. Ar un adeg roedden nhw’n teimlo’n ansicr ac yn bryderus ond bellach maen nhw wedi dod yn ddysgwyr annibynnol llwyddiannus.
- Cwrdd ag ymgeiswyr eraill ac yn cael cyfle i ddechrau adeiladu eich rhwydwaith cyfoedion.
- Archwilio sgiliau hanfodol ar gyfer sicrhau annibyniaeth.
Erbyn diwedd y digwyddiadau hyn, dylech chi deimlo’n fwy hyderus a pharod ar gyfer trosglwyddo i fywyd prifysgol.
Amserlen y digwyddiad
Mae gennych chi’r opsiwn i fynd naill ai i sesiwn bore neu brynhawn ar unrhyw gampws sy’n cynnal digwyddiad.
Mae sesiynau’n cael eu cynnal ar bob campws rhwng 10:00 AM a 1:00 PM, a 1:30 PM a 4:30 PM.
Sylwer y bydd y ffurflen archebu yn cau wythnos cyn y digwyddiad. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno!
Lleoliad
Cardiff
Y Deyrnas Unedig