ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Elis Williams-Huw - Athroniaeth (BA)

Profiad PCYDDS Elis Williams-Huw

Elis taking a picture of himself in front of a cherry blossom tree

Helo, fy enw i yw Elis ac rwyf yn fy ail flwyddyn yn astudio athroniaeth yn PCYDDS. Dwi wedi dysgu llawer hyd yn hyn, ac yn hapus fy mod i wedi dewis astudio yn Llambed. Dwi’n gobeithio mynd ymlaen i astudio ol-radd yn y dyfodol ac astudio ieithoedd tramor. 

Gwybodaeth Allweddol

Enw: Elis Williams-Huw

Rhaglen: BA Athroniaeth

Tref eich Cartref: Caerdydd

Elis' Programme Name Experience

Profiad Athroniaeth Elis

Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS? 

Dewisais PCYDDS yn benodol i astudio mewn tref bach, er mwyn bod yn rhan o gymuned trefol yng nghanol Cymru. Gyda maint y campws, teimlais bydde hyblygrwydd ar gael na fydde’n bosib yn lleoliadau oedd yn fwy mewn maint. 

Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?  

Dwi’n mwynhau chwarae pêl-droed i tim lleol Llambed. Yn aml dwi’n chwarae gwyddbwyll gyda ffrindiau neu’n astudio Siapaneaidd ar ben fy hun. 

Wnaethoch chi ddod i PCYDDS trwy lwybr arall?

Dechreuais astudio yn PCYDDS ar ol 4 mlynedd allan o addysg. Ni orffenais i ysgol uwchradd felly fe wnes i flwyddyn sylfaenol. Ges i cymaint o gefnogaeth yn y brifysgol i sicrhau fy mod i yn gallu llwyddo. 

Beth yw eich hoff beth am Gampws Llambed?

Dwi’n mwynhau yr elfen cysylltiedig ar gampws Llambed. Mae’r llyfrgell, llety myfyrwyr, yr undeb a stafelloedd darlithio i gyd yn agos at ei gilydd, sy’n rhoi naws personol i bobman. Ar y campws mi allwch chi weld bryniau, coed a natur o hyd – mae hwn yn gwneud Llambed yn lle arbennig iawn, fel lleoliad prydferth a heddychlon i astudio. Mae’r birfysgol yn rhan canolog o’r dref fel y gallwch chi teimlo elfen o gymuned wrth gerdded o gwmpas. 

Beth oedd eich hoff beth am Athroniaeth?

Tra’n astudio athroniaeth, dwi wedi mwynhau’r cyfleon i drafod gyda gwahanol darlithwyr. Gyda nifer isel o fyfyrwyr mewn darlithoedd mae yna llawer o amser i gael trafodaethau gyda arbenigwyr mewn gwanahol meysydd. Dwi’n gwerthfawrogi’r datblygiadau sgiliau personol fel ysgrifennu, darllen, dadlau a chyflwyno.