Profiad PCYDDS Cerys Bailey
Fy enw i yw Cerys Bailey, cefais fy magu yng Nghaerdydd ac roedd fy mam yn wreiddiol o Sir Benfro, felly cefais y cyfle i ymweld ei hochr hi o’r teulu yn ystod gwyliau ysgol. Er fy mod braidd yn amheus wrth ddewis Caerfyrddin fel rhywle i fynd i’r brifysgol, dyma rai o flynyddoedd gorau fy mywyd.
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Cerys Bailey
Rhaglen: BA Addysg Gynradd gyda SAC
Tref eich Cartref: Caerdydd
Cerys' Programme Name Experience
Profiad Addysg Gynradd gyda SAC Cerys
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Ar ôl clywed gan fy nghynghorydd gyrfa faint o ganmoliaeth oedd i’r cwrs Addysg Gynradd yng Nghaerfyrddin roedd hyn yn ddylanwad mawr ar fy newis. Yn ychwanegol, esboniodd i mi y bysai modd i mi wneud y cwrs i gyd drwy’r Gymraeg. Nid oedd hyn yn rhywbeth ystyriais yn wreiddiol ond roedd y dewis yn un hawdd achos roeddwn yn teimlo’n llawer mwy hyderus yn parhau gyda fy addysg drwy’r Gymraeg.
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Fel unigolyn mwynheais chwarae pêl-rwyd i’r brifysgol gan alluogi i mi ddod i nabod pobl tu allan i fy nghwrs. Fel fflat, pan nad oedd darlithoedd gennym, roeddem ni i gyd yn mwynhau mynd am dro i’r traethau agosaf fel Llansteffan a Pendine yn ogystal â chymdeithasu trwy’r Gymdeithas Gymraeg. Roeddem yn ddigon lwcus i fynd ar daith fythgofiadwy i Ddulyn gyda’r gymdeithas yn ystod y twrnamaint chwe gwlad.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Rwyf wedi bod yn hynod o lwcus i dderbyn swydd athrawes blwyddyn 6 yn Sir Benfro felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at hynny i ddechrau ym mis Medi.
Beth oedd eich hoff beth am Addysg Gynradd gyfa SAC?
Cafodd pob un o fy mhrofiadau addysgu dylanwad enfawr ar fy ymarfer fel athrawes, mae’r cyfle i gael trawstoriad o ysgolion gwahanol wir yn datblygu eich dealltwriaeth o sut mae pob ysgol yn gallu bod yn wahanol ond mae ganddynt yr un nod, sef cefnogi pob unigolyn. Cefais hefyd y cyfle i gynnal ymchwil mewn i les disgyblion ble cynhaliais gyfweliadau a darparais holiaduron i staff a disgyblion. Yn deillio o hyn, roedd gofyn i ni ysgrifennu aseiniad ar ein canfyddiadau gan ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r maes dan sylw. Rhaid hefyd canmol pob un o’r darlithwyr yn eu hymdrechion parhaol i’n cefnogi a rhannu unrhyw gyngor sydd ganddynt ar ôl bod yn athrawon.
Beth yw eich hoff beth am Gampws Caerfyrddin?
Byw mewn fflat gyda fy ffrindiau a oedd yn gwneud yr un cwrs. Roeddem ni i gyd yn mwynhau cwmni ein gilydd ac felly cymerom bob cyfle i gymdeithasu. Fel pob myfyriwr, roedd dod o hyd i’r cymhelliant i gychwyn ymchwil ac ysgrifennu aseiniadau weithiau yn sialens ond roedd byw gyda myfyrwyr o’r un cwrs â mi yn golygu roedd modd i ni chymhella a chefnogi ein gilydd. Ni allaf bwysleisio fwy pa mor arwyddocaol yw sefydlu system gefnogol sy’n cynnwys myfyrwyr o’r un cwrs â chi.