ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Sue Ainsworth BA, PGCE, MA (CY) (Agored), SFHEA

Llun a Chyflwyniad

Wearing a cornflower blue polo neck, Sue Ainsworth looks towards the camera.

Uwch Ddarlithydd

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


E-bost: s.ainsworth@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Rwy’n ddarlithydd ar y Radd Sylfaen a rhaglenni BA Addysg Gynhwysol. Cyflwynir y graddau hyn ar gampws ac ar leoliadau lloeren (ysgolion lleol yn Sir Penfro). Yn ogystal, rwy’n darlithio ar raglen BA Astudiaethau Addysg ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe.

Mae fy rôl yn cynnwys cynllunio, cyflwyno ac asesu modylau ar y ddwy raglen radd. Mae bod yn Diwtor Personol yn agwedd bwysig o’m rôl. Rwy’n cefnogi ac yn cyfeirio myfyrwyr at yr ystod eang o wasanaethau prifysgol sydd ar gael iddynt.

Cefndir

Fel cyn cyfarwyddwr disgyblaeth academaidd Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant (2015–2018) a Pholisi Cymdeithasol, Iechyd a Chymunedau (2018–Gorffennaf 2020), mae gennyf brofiad sylweddol dros ystod o raglenni. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn cynhwysiant, cyfiawnder a hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol. Rwy’n mwynhau cydweithio â myfyrwyr, lle gall rhannu ein profiadau a dealltwriaeth unigol annog amgylchedd dysgu deinameg a chreadigol. 

Rwy’n athrawes gymwysedig ac roeddwn yn Bennaeth y Cyfnod Sylfaen a’r Cydlynydd CADY mewn ysgol gynradd fawr a oedd â lleoliad Dechrau’n Deg a chanolfan adnoddau dysgu ar gyfer plant ag awtistiaeth.

Rwy’n hwylusydd Ymarfer Adferol cymwysedig. Rwy’n hyfforddi i ddod yn gwnselydd cymwysedig ac wedi gwirfoddoli gyda MindCymru, gan ddarparu gwybodaeth ac adnoddau i wella iechyd meddwl.