ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas (MA)

Caerfyrddin
1 - 3 Flwyddyn Llawn Amser

Mae’r MA mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am ddeall a helpu i greu cymunedau tecach, mwy cynhwysol. Mae’r cwrs hwn yn archwilio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan adeiladu gwybodaeth am sut mae’r gwerthoedd hyn yn llunio ein cymdeithas ac yn dylanwadu ar unigolion, teuluoedd, sefydliadau a pholisïau.

Yn y byd sydd ohoni, lle mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn gweithio ac yn byw gyda’i gilydd, mae gwybod sut i gefnogi amrywiaeth a chydraddoldeb yn hanfodol. Mae’r radd hon yn meithrin dealltwriaeth trwy feysydd fel polisi cymdeithasol, cymdeithaseg, a theori gymdeithasol a diwylliannol. Gyda sylfaen gadarn yn y pynciau hyn, mae myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chefnogi arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn broffesiynol. Er enghraifft, byddwch yn astudio’r polisïau a’r cyfreithiau sy’n diogelu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y DU, fel  Deddf Cydraddoldeb (2010), DeddfGwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014), a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015). Mae’r cyfreithiau hyn yn llywio sut rydym yn cefnogi triniaeth deg, yn enwedig mewn addysg a gwasanaethau cymunedol.

Mae’r cwrs yn cyfuno polisi ac ymarfer addysgol gyda’r theori a’r ymchwil addysgol diweddaraf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan helpu myfyrwyr i ddod yn ymarferwyr myfyriol ac effeithiol. Trwy set strwythuredig o fodylau craidd, mae myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth ymarferol ac yn dysgu meddwl yn feirniadol am bolisïau cymdeithasol a’u heffaith ar wahanol grwpiau. Mae’r dull myfyriol hwn yn eich helpu i ddeall sut mae polisïau a damcaniaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gweithio mewn bywyd go iawn a sut y gallant addasu i newidiadau cymdeithasol.

Mae hyblygrwydd yn fantais fawr o’r rhaglen hon. Gallwch ddewis astudio’n amser llawn neu’n rhan-amser, ac mae cyrsiau ar gael wyneb yn wyneb, ar-lein, neu gyfuniad o’r ddau. Cynigir dosbarthiadau yn fyw trwy Teams, gyda recordiadau fel y gallwch eu hadolygu ar eich cyflymder eich hun. Mae hyn yn golygu y gallwch ddylunio eich amserlen ddysgu o amgylch eich bywyd, p’un a ydych ar y campws neu’n astudio o bell. Mae’r hyblygrwydd hwn yn ei gwneud hi’n haws cydbwyso’ch astudiaethau ag ymrwymiadau eraill wrth ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae’r radd ar gael fel MA, Diploma, neu Dystysgrif, gan ei gwneud yn hygyrch ar wahanol lefelau i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd sy’n cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys addysg yn y gymuned a gwaith cymdeithasol. Waeth beth yw eich man cychwyn, mae’r rhaglen hon yn llwybr tuag at ddatblygu gyrfa ystyrlon mewn amrywiaeth a chynhwysiant.

I gael manylion am fodylau, amserlenni a gofynion ymgeisio, cysylltwch â’n rheolwr rhaglen.

Trwy ymuno â’r MA mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas, byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i helpu i greu byd tecach, mwy cynhwysol. Trwy ddysgu ymarferol a damcaniaethol, mae’r rhaglen hon yn eich paratoi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym maes tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
1 - 3 Flwyddyn Llawn Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn croesawu ceisiadau gan rai sydd wedi dod trwy lwybrau gradd traddodiadol ac o arfer proffesiynol, a chan rai sydd â phrofiad yn y maes.
02
Mae’r radd wedi’i datblygu er mwyn ymateb i'r angen am weithwyr proffesiynol sy'n gallu deall 'y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â ffurfio polisi cymdeithasol, ei weithredu a’i ddatblygu' (SPA, 2007: 8).
03
Cynlluniwyd y rhaglen er mwyn galluogi myfyrwyr i barhau i ddatblygu'r ystod o sgiliau a enillwyd ar lefel gradd gychwynnol ac sy'n trosglwyddo'n hawdd i fyd gwaith.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth addysgu ar gyfer yr MA mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas yn canolbwyntio ar gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â chymhwyso ymarferol. Rydym yn credu mewn dysgu myfyriol, cynhwysol sy’n rhoi sgiliau’r byd go iawn i’r myfyrwyr, gan dynnu ar bolisi ac ymarfer addysgol cyfredol. Trwy fodylau rhyngweithiol, mae myfyrwyr yn archwilio theori gymdeithasol a diwylliannol i ddod yn eiriolwyr effeithiol dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Blwyddyn 1: Sylfeini Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yn y flwyddyn gyntaf, mae myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth sylfaenol mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gyda phwyslais ar bolisi cymdeithasol a chymdeithaseg. Mae modylau allweddol yn ymdrin â’r damcaniaethau a’r ddeddfwriaeth hanfodol sy’n gyrru arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, megis Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r flwyddyn hon yn annog meddwl beirniadol am amrywiaeth ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ymarfer myfyriol mewn lleoliadau proffesiynol.

Blwyddyn 2: Uwch Arferion a Chymhwyso Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar gymhwyso egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ymarferol mewn cyd-destunau amrywiol, gan gynnwys addysg yn y gymuned a gwasanaethau cymdeithasol. Mae myfyrwyr yn dyfnhau eu dealltwriaeth o bolisi ac ymarfer addysgol trwy astudiaeth uwch o ddeddfwriaeth gyfredol a dysgu yn seiliedig ar achosion. Mae aseiniadau myfyriol a phrosiectau’r byd go iawn yn annog myfyrwyr i ddatblygu dulliau addasadwy ac ymatebol o ymdrin â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gellir eu cymhwyso yn eu rolau proffesiynol.

Traethawd Hir

(60 credydau)

Gwleidyddol: Dylanwadau ar Anghydraddoldeb ac Amrywiaeth

(30 credydau)

Cynhyrchu/Atgynhyrchu Anghyfartaledd yn Gymdeithasol

(30 credydau)

Chwalu'r Rhwystrau i Gydraddoldeb: Rhywedd, Ethnigrwydd a Hil, Ieuenctid ac Oedran, Iechyd ac Anabledd a Grwpiau Bregus

(30 credydau)

Cymunedau Cynaliadwy

(30 credydau)

Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol

(30 credydau)

Rheoli Arfer Proffesiynol mewn Eiriolaeth

(30 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gan yr Ysgol ei Pholisi Derbyn ei hun sy’n cydymffurfio â gofynion Polisi Derbyn y Brifysgol a Pholisi’r Brifysgol ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae system gynllunio gadarn yn cael ei chynnal gyda Gwasanaethau Cymorth ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd ag anableddau.

    Fel arfer, y gofyniad y llwybr mynediad traddodiadol yw gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu 2:1, neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol a phrofiad perthnasol. Mae’r Ysgol yn annog ceisiadau gan fyfyrwyr sydd ag amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol a phrofiadau perthnasol i wneud cais.

    Gofynion Cyffredinol

    • gradd gychwynnol gan Brifysgol Cymru;
    • gradd gan gorff dyfarnu graddau cymeradwy arall;
    • cymhwyster nad yw’n radd ond sydd o safon dderbyniol er mwyn ymuno â rhaglen;
    • gall ymgeiswyr nad oes ganddynt radd gael eu hystyried os ydynt wedi gweithio mewn swydd gyfrifol sy’n berthnasol i’r cynllun am o leiaf ddwy flynedd.
  • NID OES ARHOLIADAU ar y cwrs Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas (MA). Nod asesiadau’r rhaglen yw caniatáu i fyfyriwr ddangos ei ddealltwriaeth academaidd yn ogystal â gwella eu sgiliau, a hynny trwy ddefnyddio asesiadau sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag anghenion cyflogwyr yn y maes hwn, a gallant gynnwys:

    • Aseiniadau
    • Astudiaethau achos
    • Proffil cymunedol
    • Dylunio taflen a phapur academaidd atodol
    • Traethawd Hir
    • Traethodau estynedig
    • Dylunio holiadur
    • Dyddiaduron myfyriol
    • Cyflwyniadau seminar.
    • Mae myfyrwyr yn gyfrifol am ysgwyddo’r gost o brynu gwerslyfrau hanfodol ac o gynhyrchu’r traethodau, yr aseiniadau a’r traethodau hir sy’n ofynnol er mwyn cyflawni gofynion academaidd pob rhaglen astudio.
    • Os yw myfyrwyr yn dymuno casglu data fel rhan o’u traethawd hir bydd angen iddynt gael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn gwneud hynny.
    • Bydd costau pellach hefyd ar gyfer y canlynol, na ellir eu prynu gan y Brifysgol:
      • Llyfrau
      • Dillad
      • Gwaith maes
      • Argraffu a chopïo
      • Deunydd ysgrifennu
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Nod y rhaglen hon yw meithrin annibyniaeth ddeallusol ymysg myfyrwyr a’u hannog i ymgysylltu â thystiolaeth mewn ffordd feirniadol. Er nad rhaglen alwedigaethol yw hon yn bennaf, mae’n paratoi myfyrwyr ar gyfer symudiad i gyfeiriad galwedigaethol. Bydd graddedigion sy’n gadael y radd hon mewn sefyllfa dda i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys, er enghraifft:

    • Swyddog Gofal Plant
    • Swyddog Addysg
    • Agenda Cydraddoldeb
    • Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd
    • Gweithiwr Prosiect y Gwasanaeth Maethu
    • Gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
    • Cynorthwyydd Iaith a Rhifedd
    • Hyfforddwr Dysgu
    • Swyddog Prawf
    • Gweithiwr Cymdeithasol/Gwasanaethau Cymdeithasol
    • Cynorthwyydd Cymorth i bobl anabl
    • Athro
    • Gweithiwr gwirfoddol mudiad ieuenctid

     Gall graddedigion hefyd ddewis mynd ymlaen i gwblhau cyrsiau ôl-raddedig, ystyried ennill cymeradwyaeth broffesiynol gyda’r cwrs MA Gwaith Ieuenctid a Chymuned neu ddoethuriaeth mewn Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant.