Y Drindod Dewi Sant yn dathlu graddedigion Birmingham 2023
Mae seremoni raddio campws Birmingham Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cael ei chynnal yn Ystafelloedd Eastside y ddinas heddiw (27 Mehefin).

Mae’r seremoni’n gyfle i ddathlu eu llwyddiant a’u hymrwymiad, ac i alluogi cymuned y Brifysgol i gydnabod cyraeddiadau ei myfyrwyr.
Wrth annerch y darpar-raddedigion, dywedodd Dr John Deane, Deon campws Birmingham Athrofa Dysgu Canol Dinas Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r seremoni raddio’n nodi’r uchafbwynt yng ngyrfa academaidd ein myfyrwyr.
“Mae’n ganlyniad gwaith caled ac ymrwymiad, ond dylem hefyd gofio’r gefnogaeth a roddwyd gan deulu a ffrindiau.
“Rydych chi i gyd yn graddio gyda’r sgiliau a’r priodoleddau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth yn eich gyrfa ddewisol.
“Rwy’n hyderu, wrth i chi edrych yn ôl ar eich amser yn fyfyrwyr yn y Brifysgol, y byddwch yn meddwl am y ffrindiau niferus a wnaethoch a’r atgofion hapus o’ch amser yma, ac y bydd eich profiadau yn Y Drindod Dewi Sant o fudd mawr i chi gydol eich oes.
“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i chi ar gyfer eich dyfodol ac yn eich atgoffa y byddwn yn ymdrechu i’ch cefnogi, yn gyn-fyfyrwyr y Brifysgol hon, ac yn gobeithio y byddwch yn parhau i gadw mewn cysylltiad â ni.”
Mae Birmingham Y Drindod Dewi Sant, sydd â dau gampws wedi’u lleoli ar Stratford Road yn Sparkhill ac ar lannau’r gamlas yng nghanol y ddinas – y naill a’r llall yn gymdogaethau bywiog, yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob cefndir fynd i mewn i Addysg Uwch.
Ynglŷn â Birmingham Y Drindod Dewi Sant:
Agorodd Campws Sparkhill ym mis Mawrth 2018 a Champws Quay Place ym mis Ionawr 2020, sydd gyda’i gilydd yn creu campws ffyniannus lle gall myfyrwyr Cartref a Rhyngwladol ddysgu sgiliau newydd ar gyfer y gweithle, datblygu sgiliau presennol, magu hyder, a chwrdd ag eraill â nodau tebyg. Mae’n amgylchedd cyfeillgar a bywiog sy’n cynorthwyo myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant i ddatblygu eu potensial i’r eithaf.
I gael rhagor o wybodaeth am gampws Birmingham neu i drafod y rhaglenni, anfonwch e-bost at birminghamadmissions@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch 0121 229 3000.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071