ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi bod y myfyriwr pensaernïaeth Jacob Davies-Hannen wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Myfyriwr y Architects’ Journal (AJ) 2024.

Jacob Davies Hannen, an architecture student at ϳԹ, standing in front of his designs

Mae Gwobr Myfyriwr AJ yn uchel ei pharch o fewn y gymuned bensaernïol, gydag enwebeion yn cynrychioli’r gorau o’r genhedlaeth nesaf o benseiri. Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr gael arddangos eu gwaith i gynulleidfa broffesiynol eang, ennill cydnabyddiaeth diwydiant, a datblygu eu gyrfaoedd ymhellach.

Mae prosiect Jacob Davies-Hannen yn canolbwyntio ar adfywio tref ddiwydiannol Gymreig Merthyr Tudful, a oedd ar un adeg yn gartref i weithfeydd haearn mwyaf y byd. Mae ei ddyluniad yn archwilio hanes diwydiannol cyfoethog y dref tra’n mynd i’r afael â’i dirywiad ôl-ddiwydiannol, gan anelu at adfywio’r ardal trwy gynnig ymyriadau cynaliadwy a diwylliannol sensitif.

Rhannodd Jacob ei gyffro ynglŷn â’r enwebiad, gan ddweud, “Mae’n anrhydedd anhygoel i mi fod ar y rhestr fer ar gyfer gwobr mor amlwg. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn golygu llawer i mi ac mae’n adlewyrchu’r holl waith caled sydd wedi’i wneud yn fy mhrosiect. Rwy’n ddiolchgar iawn i’m tiwtoriaid a’m cydweithwyr yn PCYDDS am eu cefnogaeth a’u hanogaeth ar hyd y daith hon.”

Ychwanegodd Ian Standen, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer ʱԲïٳ yn PCYDDS, “Mae enwebiad Jacob ar gyfer Gwobr Myfyriwr AJ yn adlewyrchiad o’i greadigrwydd a’i ymrwymiad i arloesi pensaernïol. Mae’r prosiect a gyflwynwyd ar gyfer yr enwebiad yn dangos yn glir bod gan Jacob ddull arloesol o gadw pensaernïaeth hanesyddol tra hefyd yn ymgorffori arferion cynaliadwyedd modern.

Nid oes amheuaeth bod ei waith yn ymgorffori gwerthoedd craidd ein rhaglen, ac rydym yn hynod falch o’i gyflawniad.”

I gael rhagor o wybodaeth am Wobr Myfyriwr AJ a phrosiect Jacob, ewch i

  

Ydych chi eisiau astudio pensaernïaeth yn y Brifysgol? Cliciwch ar y ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth -

  /cy/pynciau/peirianneg-sifil-phensaerniaeth 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon