Myfyriwr Gwydr Lliw 'wedi’i ddenu at ddeunyddiau peryglus' yn trafod ffilmio ar gyfer Sky Arts
Mae Kerry Collison, 23 oed, bob amser wedi teimlo bod rhaid iddi weithio gyda’i dwylo.

“Mae gen i atyniad pendant at ddeunyddiau peryglus,” meddai, wrth iddi sôn wrthym am astudio Cerflunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin. “Metelau poeth, gwydr - mae rhywbeth barddonol am barchu deunydd, ac yntau’n caniatáu i chi greu rhywbeth allan ohono.”
Ar ôl gwneud gwaith castio, cerfio ac adeiladu ar gyfer ei gradd Baglor, parhaodd Kerry i ddyfnhau ei harfer creadigol ar gwrs arall, y tro hwn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
“Dewisais i astudio MA Celfyddydau Cain: Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe,” meddai. “Fe wnes i ei ddewis oherwydd pa mor agored ac amlddisgyblaethol ydyw. Roedd lle i mi gyfuno celf gain gysyniadol a gwneud crefftau.
“Yn aml, mae celf a chrefft yn cael eu cadw’n hollol ar wahân, sy’n drueni o ystyried y gorgyffwrdd enfawr rhyngddyn nhw, ond wedyn yn Y Drindod Dewi Sant maen nhw’n cael eu trin yn gyfartal.”
“Pan ddechreuais i’r cwrs, dim ond anelu at wneud panel gwydr lliw bach a datblygu fy ymarfer celf gain ychydig yn fwy oeddwn i. Roeddwn i eisiau ennill ychydig o sgiliau arbenigol nad oeddwn hyd yn oed yn siŵr y byddwn i’n eu defnyddio yn y dyfodol.”
“Doedd gen i ddim syniad y byddwn i, o wneud y cwrs, ochr yn ochr â’r holl wybodaeth newydd, yn datblygu cariad a dealltwriaeth o wydr yn ddeunydd a fyddai’n siapio cyfeiriad fy nyfodol.”
Gan ddisgrifio ei darlithwyr yn ‘addysgwyr hynod dalentog’, dywed Kerry fod Y Drindod Dewi Sant wedi meithrin perthnasoedd gwaith a chyfleoedd gyrfa a fydd yn ei galluogi i fynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod. “Mae’r holl bethau hyn yn werth llawer mwy na chymhwyster,” meddai Kerry.
“Yr uchafbwynt i mi yng Ngholeg Celf Abertawe oedd gallu gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol. Daeth y stiwdio yn ail gartref i mi, ac rwy’n teimlo mor freintiedig fy mod i wedi cael dysgu gan Owen Luetchford a Stacey Poultney. Mae’r ddau’n ymarferwyr talentog iawn.”

Cadwodd Kerry ei hun yn brysur wrth astudio, gan gwblhau cyfnod preswyl i raddedigion yn Ysgol Gelf Caerfyrddin a Phrentisiaeth mewn Gwydr Lliw yn y Ganolfan Gwydr Pensaernïol, wrth weithio’n agos gyda New British Art i gynnal arddangosfa unigol ochr yn ochr â’i Sioe Raddio MA.
Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ystyried sut mae pobl yn gweld gwydr lliw, gan ddefnyddio hiwmor a delweddau annodweddiadol i wneud crefft o fri traddodiadol yn fwy ystyrlon i gynulleidfa gyhoeddus. “Bu gan wydrwyr synnwyr digrifwch erioed, un maen nhw wedi’i guddio’n glyfar drwy gydol eu gwaith,” meddai Kerry. “Dim ond pan fyddwch chi’n astudio eu gwaith yn agos y daw’n amlwg, ac i mi, mae hwn yn beth pwysig i’w amlygu.”
Wrth orffen ei gradd Meistr, mae Kerry hefyd wedi bod yn gweithio gyda Sky Arts ar ail dymor Master Crafters: The Next Generation Bill Bailey a fydd yn cael ei ddarlledu nos Iau 13 Gorffennaf, am 8 o’r gloch.
“Fe wnes i gais am y sioe ar fympwy llwyr, heb ddisgwyl o gwbl y byddai’n do di rywbeth - yn enwedig gan fod fy ngwaith yn aml yn anhraddodiadol a dadleuol. Ond mae’n ymddangos eu bod nhw’n dwlu ar hynny!”
“Roeddwn i’n sicr yn nerfus i weithio ar gamera, ond unwaith i mi ddechrau, cefais gymaint o hwyl yn cwblhau’r heriau ar gyfer y sioe. Roedd yn teimlo fel breuddwyd, felly rwy’n gyffrous i’w weld yn cael ei ddarlledu a’r profiad cyfan yn troi’n realiti.”
Creodd y ffilmio berthynas wych rhwng Kerry, y crefftwyr eraill a’r gweithwyr proffesiynol y bu’n gweithio gyda nhw, y gobeithia y bydd yn arwain at gydweithio yn y dyfodol. “Mae wedi bod yn brofiad dysgu a bywyd gwych. Byddwn i’n cynghori crewyr eraill y bydd unrhyw ran yng nghymuned eich maes o fudd i’ch dyfodol yn artist.
“Ond yn gyntaf oll, fyddwn i ddim lle’r ydw i nawr heb astudio yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant a gweithio gyda’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol. Mae Abertawe’n adnabyddus am ei gwydr lliw, ac mae wir wedi ennill y gydnabyddiaeth honno.
“Ces i gymorth aruthrol gan dechnegwyr Y Drindod Dewi Sant, ac mae’r cyfleusterau’n anhygoel – byddai hi’n amhosibl i mi argymell y rhaglen yn ddigon cryf os oes gennych chi ddiddordeb mewn Gwydr Lliw.”
Daliwch Kerry ar Sky Arts, Nos Iau 13 Gorffennaf am 8 o’r gloch.

Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: ella.staden@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384467078