Mae cyrsiau academaidd yn bosibilrwydd i bawb
Gadawodd Shaun Kilbane yr ysgol yn y nawdegau hwyr yn 16 oed, gydag ychydig iawn o gymwysterau. Roedd yn sicr nad yw’r byd academaidd iddo ef. Ond yn agos i 25 mlynedd yn ddiweddarach, mae e wedi profi ei hun yn anghywir…

Ar ôl gadael yr ysgol, aeth Shaun yn syth i mewn i fyd gwaith, a daeth o hyd i Brentisiaeth fel Gwneuthurwr Weldiwr. Mae prentisiaethau’n cynnig dull dysgu ymarferol, seiliedig ar waith, a theimlodd y byddai hyn yn gweddu iddo’n well na’r byd academaidd.
Dros y blynyddoedd y cafodd ei gyflogi gan Safran Aerospace, gweithiodd Shaun ei ffordd i fyny, ac yn 2017 cynigiwyd iddo’r cyfle i symud ei addysg ymlaen gyda chymorth y cwmni.
Gwnaeth gais am BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu, y gallai astudio ar brynhawniau Gwener. Ni fyddai hyn yn effeithio ar ei swydd llawn amser, mewn lleoliad agos i’w gartref – Campws Glannau SA1 Abertawe.
Ynglŷn â’r broses ymgeisio, dywed Shaun: “Roeddwn wrth fy modd nod PCYDDS wedi ystyried fy nghais yn seiliedig ar brofiad, yn hytrach na chanlyniadau academaidd fel prifysgolion eraill. Gyda’r ychydig gymwysterau oedd gen i, ni fydden i fyth wedi cael fy nerbyn i brifysgol pe bai wedi’i seilio’n unig ar hyn,” ychwanegodd.
“Roedd llawer o Fathemateg, Ffiseg a Chemeg ar y cwrs, ac nid oeddwn wedi hoffi’r rhain rhyw lawer yn yr ysgol, ond roedd y darlithwyr yn wych wrth fy nghefnogi i a gwnaethant y cynnwys yn hynod o ddiddorol.
“Nid wyf yn academaidd yn naturiol, ond gyda’u help nhw, gweithiais yn eithriadol o galed a rhagorais”.
Doedd dim stopio Shaun. Graddiodd o’i radd Baglor yn 2022 a phenderfynodd ymgymryd â gradd Meistr ar unwaith, y tro, dewisodd MSc Rheolaeth Prosiectau Peirianneg.
“Eto, roedd cyfleustra’r PCYDDS, drwy gynnig cyrsiau lleol a rhan amser, yn wych i bobl fel fi sy’n gweithio’n llawn amser ond ag angen cyfle i symud ymlaen yn ein gyrfaoedd. Astudiais fy ngradd Meistr ar nos Fawrth, a gyfyngodd yr effaith ar fy swydd lawn amser.
“Mae dysgu’n rhoi llawer o foddhad i mi. Mae’n aml yn anodd, rhwystredig a heriol, ond mae’r cyffro o oresgyn rhywbeth sy’n teimlo’n amhosibl ar y dechrau, yn teimlo’n wych. Dysgais lawer iawn ar y cwrs sydd wedi fy helpu i gael fy rôl bresennol fel Arweinydd Prosiectau Peirianneg.”
Ochr yn ochr â’r swydd hon, daeth Shaun yn ddarlithydd rhan amser ar gwrs MADE Cymru, ac yna ar gwrs Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu PCYDDS, sef ei faes arbenigedd. Gan adfyfyrio ar ei sefyllfa nawr, meddai:
“Rwy’n nesu at hanner ffordd trwy fy mywyd gwaith, ac rwyf wedi rhagori ar unrhyw beth y meddyliais y bydden i’n ei gyflawni yn fy oes. Mae’r offer a’r dulliau rwyf wedi’u dysgu yn PCYDDS wedi fy helpu yn fy ngyrfa, ac mae’r staff a chymuned y brifysgol yn gefnogol ac yn barod i wrando a chynorthwyo bob tro.
“Rwy’n hapus iawn gallu symud fy ngyrfa ymlaen yn y maes Awyrofod, diwydiant rwy’n hoff iawn ohono, a gallaf argymell astudio pellach ar gyfer y rheiny sydd mewn swydd yn barod. Gwnaeth PCYDDS fy helpu i gyflawni mwy nag y meddyliais y gallen i erioed, ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar am hynny.”
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: ella.staden@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384467078