Llwybrau newydd yn blaguro ar ôl gweithdai celf natur
Bu tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wrthi’n cynorthwyo 12 o ddysgwyr sy’n oedolion wrth gwblhau cwrs celf a’u hysbrydolodd i ddal ati i ddysgu.

Archwiliodd y cwrs 4 wythnos hwn, a gynhaliwyd yng Ngweithdy Dove ym Manwen, Castell Nedd, wahanol dechnegau, cyfryngau a themâu bob sesiwn. Cafodd ei addysgu gan Jenna Davies, artist sy’n gweithio’n agos gyda PCYDDS i helpu ysbrydoli egin artistiaid i ddychwelyd i ddysgu pan fyddant yn oedolion.
Yn dilyn y cwrs, roedd ar y grŵp eisiau dysgu rhagor am yr hyn sydd gan y Brifysgol i’w gynnig, a threfnwyd ymweliad campws ar yr 20fed Hydref, i archwilio Coleg Celf Abertawe ac i gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol.
Cymerasant ran mewn gweithdy printio â gwasg gwres a brodwaith a ysbrydolwyd gan natur a defnyddiau naturiol a gynhaliwyd gan Amanda Roberts, Uwch Swyddog Cyswllt Addysgol PCYDDS gyda help myfyrwyr celf presennol. Yna, aeth y dysgwyr sy’n oedolion ar daith o gwmpas y campws, lle cawsant weld cyfleusterau adeilad Dinefwr Coleg Celf Abertawe, fel y gofod Dylunio Graffig a’r gweithdai Patrymau Arwyneb a Thecstilau.
Meddai Donna Williams, Swyddog Ehangu Mynediad PCYDDS: “Bu’n hyfryd gweld y dysgwyr, o bob cefndir, yn magu hyder bob wythnos, gan wthio eu ffiniau a chael hwyl ar yr un pryd.
“Gwnaethant ddysgu am gydweithio a chyfathrebu, ac roedd pawb yn cymryd rhan yn llawn ac yn frwdfrydig ynghylch dysgu technegau newydd a defnyddio ystod o offer a defnyddiau. Bellach, mae rhai o’r dysgwyr yn awyddus i ymuno â rhaglenni eraill a gynhelir gan Goleg Celf Abertawe, fel y cyrsiau Celf Liw Nos, sy’n newyddion gwych.”

Ar ôl y cwrs a’r daith, dywedodd P. Farrell, un o’r dysgwyr sy’n oedolion: “Roedd y gweithdy print gwres a brodwaith yn gyffrous ac yn ddiddorol iawn i fod yn ran ohono. Roedd gweld y stiwdios celf a’r cyfleusterau sydd gan y Brifysgol yn anhygoel…buaswn i’n hapus symud yno i fyw a pheidio byth â’i adael! Roedd ansawdd y lle a’r golau ar ddiwrnod gwlyb, llwydaidd yng Nghymru yn wych.
“Darparodd y cwrs 4 wythnos yn Nove, Banwen bedair sesiwn wahanol iawn a roddodd i mi ddeilliant gwahanol iawn i’r disgwyl. Roedd y prosesau newydd mor ddiddorol ac mae’r sesiynau, o fewn cyfnod mor fyr, wedi dylanwadu arna’i mewn llawer o ffyrdd positif ac wedi ysbrydoli ffyrdd newydd a mwy agored o wneud celf.”
Meddai dysgwr arall, Lesley Cottrell: “Roedd edrych o gwmpas y cyfleusterau creadigol a dysgu am y cyrsiau sydd ar gael yn ardderchog. Rwyf wir wedi mwynhau’r gweithdai ac mae’n hyfryd cael rhywbeth i edrych ymlaen ato bob wythnos. Cefais fy ysbrydoli i fynychu un o’r dosbarthiadau nos ac rwy’n edrych ymlaen at gyfleoedd eraill a gynigir gan PCYDDS.”
Meddai Jenna Davies, Tiwtor Celf: “Mae gweithio gyda thîm Ehangu Mynediad PCYDDS wedi bod yn bleser ac yn brofiad llawn boddhad. Trwy’r cwrs celf, roedd arna’i eisiau dangos i bobl de orllewin Cymru bod gan bob un ohonom ysbryd greadigol, gan ganiatáu i gyfranogion ddod o hyd i’w hochr greadigol, rhoi cynnig ar bethau newydd ac arbrofi. Y gobaith yw bod hyn wedi rhoi i ddysgwyr sy’n oedolion ardal Castell Nedd wahanol ffordd o edrych ar sut maent yn creu, ac wedi’u hysbrydoli i wneud eu celf eu hunain heb ofni fynd ati i roi cynnig ar bethau.”
Mae adran Ehangu Mynediad PCYDDS yn gweithio gyda chymunedau ac unigolion i gyfoethogi dealltwriaeth, hyder, llesiant a gwydnwch, wrth amlygu’r potensial i gyflawni mwy. Mae gwaith yr adran yn cryfhau cymunedau trwy ddarparu cyrsiau ymarferol i adnabod sgiliau, cyfeirio pobl tuag at gyfleoedd i ddysgu ymhellach a’u helpu i ddychwelyd i addysgu fel oedolion.
I gael rhagor o wybodaeth am Adran Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, cysylltwch â Donna Williams yn donna.c.williams@pcydds.ac.uk

Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: ella.staden@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384467078