ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Ann Davies wastad wedi bod yn weithiwr caled, ac ers iddi cael ei hethol yn AS Plaid Cymru dros Gaerfyrddin yr haf diwethaf, mae hi wedi cofleidio’r cyfrifoldebau o gynrychioli ei chymuned. Yn falch o fod wedi graddio o gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae taith Ann o gefn gwlad gorllewin Cymru i San Steffan yn ysbrydoledig. Gyda gwên gynnes ar ei hwyneb, mae’n edrych nôl ar sut mae ei phrofiad yn y brifysgol wedi llywio ei llwybr.

Woman standing in front of Houses of Parliament
O’r fferm i’r ystafell ddosbarth

Dechreuodd stori Ann ar y fferm deuluol yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, lle roedd hi’n cydbwyso boreau cynnar yn godro gyda dysgu cerddoriaeth ar draws y sir. Pan fynegodd ei merch ieuengaf, Gwenllian, ei dymuniad i astudio cwrs Addysg Blynyddoedd Cynnar yn y brifysgol, roedd Ann yno i’w chefnogi, a heb yn wybod iddi, byddai hyn yn ei harwain at ei thaith academaidd ei hun.

“Roedd mynychu Diwrnodau Agored gyda Gwenllian yn agoriad llygaid. Pan ddaethom ni i ddiwrnod agored Y Drindod Dewi Sant, y peth mwyaf trawiadol i ni oedd dealltwriaeth ac empathi y staff addysgu a esboniodd sut maen nhw’n cefnogi myfyrwyr fel Gwenllian, sydd â dyslecsia neu anawsterau dysgu eraill. Wedyn pan gawsom ni wybod y byddai hi’n gallu astudio’r cwrs yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, doedd dim dwywaith mai dyma’r lle iawn iddi hi” meddai Ann.

“Ar y pryd, ro’n i’n edrych am gwrs rhan-amser i fi fy hun er mwyn gallu uwchsgilio ac yn y pen draw, helpu Gwenllian gyda’i breuddwyd o agor ei meithrinfa blynyddoedd cynnar ei hun. Y foment clywes i yn y diwrnod agored bod y cwrs ar gael i’w astudio gyda’r nos, ro’n i’n gwybod bod rhaid i fi ymuno.”

Wedi’i hysbrydoli, penderfynodd Ann ymuno â’i merch, gan gofrestru ar gwrs BA rhan-amser mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar. Erbyn ei blwyddyn olaf, roedd hi a Gwenllian eisoes wedi cyd-sefydlu Cwtsh y Clos, meithrinfa cyfrwng Cymraeg ar y fferm deuluol sydd dal i lwyddo heddiw. Yn 2015, graddiodd y ddwy gyda’i gilydd gyda balchder.

two women standing with uniforms on
Ann gyda'i merch Gwenllian, sydd gyda'i gilydd, wedi cyd-sefydlu Meithrinfa Cwtsh y Clos yn Sir Gaerfyrddin.
Cofleidio twf a chyfleoedd

Dywed Ann iddi gofleidio ei hantur academaidd a mwynhau pob eiliad o’i phrofiad dysgu, er gwaethaf yr heriau. 

Meddai: “Roedd llawer o bethau i’w cydbwyso. Ambell i ddydd Sadwrn, byddwn i’n gadael y ffarm ac yn dod i’r llyfrgell i weithio. Roedd hi’n anodd jyglo gwaith, y ffarm, ac edrych ar ôl perthnasau oedrannus, ond chollais i braidd un ddarlith ar nos Lun.

“Yn y dosbarth, roedd amrywiaeth o fyfyrwyr – gwahanol oedrannau a gwahanol gefndiroedd – a oedd, fel fi, yn gweithio’n llawn amser a mo’yn uwchsgilio, heb gael y cyfle’n flaenorol i fynd i’r Brifysgol. Fi oedd y hynaf yn y dosbarth ac roeddwn i fel mam i bawb a dweud y gwir. Ond roedd pawb yn gefn i’w gilydd ac roedd teimlad cryf o gyfeillgarwch a chymuned.

“Helpodd y wybodaeth a ddysgais i o’r cwrs i fynd ymlaen i agor y feithrinfa ac rwy wedi mynd â’r sgiliau a ges i, fel dadansoddi gwybodaeth, holi cwestiynau, a bod â meddwl agored, gyda fi ar hyd fy rolau gwleidyddol ac anwleidyddol ers hynny. 

“Yn fwy na dim, roedd cyflawni’r cwrs yn hwb i’m hunan-hyder, gan roi cadarnhad i mi fy mod i’n gallu cyflawni pethau, ac fe wnaeth hwn osod y llwybr ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.”

Talodd penderfyniad Ann ar ei ganfed, a gyda’r hyder roedd hi newydd ei ddarganfod, dyma hi’n  aros i gwblhau gradd meistr mewn Llythrennedd Cynnar, gan archwilio dwyieithrwydd yn y Blynyddoedd Cynnar. Arweiniodd ei llwyddiant academaidd ati’n darlithio ar yr un cwrs yr oedd hi wedi astudio gan drosglwyddo ei gwybodaeth a’i brwdfrydedd i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr.

two women graduating in their caps and gowns
Ann a Gwenllian yn graddio yn 2015.
Chwalu rhwystrau a magu hyder

Cafodd llwybr Ann i wleidyddiaeth ei baratoi gan wasanaeth cymunedol, gan ddechrau gyda’i rôl yn Cynghorydd Sir Llanddarog ac yn ddiweddarach yn Aelod Cabinet Materion Gwledig. Ond, roedd amheuon yn dal i’w blino.

“Mae rhyw feddylfryd, yn enwedig ymhlith menywod cefn gwlad, nad ydyn nhw’n teimlo’n ddigon da. Roedd hwn yn naratif roedd rhaid i fi ei herio ynof fi fy hun” meddai.

“Pan ddaeth teimladau o amheuaeth drosof i, eisteddodd rhywun agos gyda mi a holi pam nad oeddwn i’n teimlo’n ddigon da i sefyll fel AS. Ar ôl i fi roi fy rhesymau, dyma hi’n fy atgoffa i o’r pethau roeddwn i wedi’u cyflawni yn fy mywyd personol a phroffesiynol. Yn bendant mae angen rhagor o bobl debyg arnom ni, sy’n gallu eistedd gyda ni a’n hatgoffa ni ein bod ni’n ddigon da a na ddylem ni byth ein hamau’n hunain.”

Ar ben hynny, bu anogaeth ei theulu a’i chymuned yn hollbwysig. Meddai Ann: “Eu ffydd nhw ynof i a wnaeth y gwahaniaeth. Taflodd fy merched fy nghyngor fy hun yn ôl ataf  gan ddweud ‘Ewch amdani, Mam!’”

Woman standing in front of sheep
Cadw’i thraed ar y ddaear yn ystod newid

Er gwaethaf gofynion bywyd gwleidyddol, mae gwreiddiau Ann yn ei sadio hi. 

“Erbyn bore Gwener, dwi nôl ar y ffarm, wedi dianc rhag prysurdeb Llundain a bydda i  allan yn godro gyda fy ngŵr. Pan dwi yn fy welis yng nghanol y da a’u baw, mae’n dod â fi nôl i bwy ydw i, a dwi allan o swigen San Steffan.

“Mae’r Sul yn ddiwrnod cysegredig i mi – y capel ac wedyn cinio gyda’r teulu. Mae gen i dair merch a wyron bach felly ar ôl y capel, mae pawb yn cael gwahoddiad i’r ffarm am ginio dydd Sul ac rydyn ni’n dod at ein gilydd i ddal fyny. Mae ffermio, bod yn fam, mam-gu a gwraig, yr un mor bwysig i mi â’m swydd bob dydd, ac ynghyd â’m ffydd i, dyma’r pethau sy’n cadw fy nhraed i ar y ddaear.”

Mae neges Ann o anogaeth i ferched yn glir: “Peidiwch ag ofni mynd am gyfleoedd achos eich bod chi’n teimlo nad ydych chi’n ddigon da. Mae’r sgiliau rydyn ni’n eu hennill o jyglo bywyd - gweithio tra’n magu plant a rheoli cartrefi - yn bwerus ac yn werth eu cydnabod.”

Mae ei stori hi’n tynnu sylw at effaith gwaith caled a’r dewrder i gofleidio newid. Mae hi wedi chwalu rhwystrau mewnol ac allanol ac wedi torri ei chwys ei hun, ac mae’r Brifysgol yn falch o fod wedi chwarae rhan yn y daith honno. Wrth iddi gynrychioli ei hetholaeth gydag angerdd a hyder, mae’n parhau i aros yn driw iddi hi ei hun ac yn ysbrydoliaeth i eraill.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon