Myfyriwr Graddedig yn Arwain y Ffordd wrth Helpu Myfyrwyr Astudiaethau Addysg i Gael Profiad Gwerthfawr
Mae Sam Jones, a raddiodd mewn Astudiaethau Addysg o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, bellach yn gweithio i asiantaeth athrawon yn Abertawe, ac mae’n gwneud camau breision wrth helpu myfyrwyr Astudiaethau Addysg cyfredol i ddod o hyd i brofiad perthnasol â thâl mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae’r fenter hon yn pontio’r bwlch rhwng dysgu academaidd a chymhwyso ymarferol ac mae hefyd yn darparu cyfleoedd amhrisiadwy ar gyfer y rheini sy’n dymuno mynd i’r proffesiwn addysgu.

Penderfynodd Sam astudio yn PCYDDS ar ôl clywed am enw da’r brifysgol am y radd astudiaethau addysg, a’i hanes cyfoethog o gefnogi athrawon ar eu teithiau dysgu. Meddai:
“Roedd y cwrs astudiaethau addysg yn apelio ataf i oherwydd yr hyblygrwydd a oedd yn caniatáu i mi fynd tu allan i’r ystafell ddarlithio a chael profiad uniongyrchol o’r ystafell ddosbarth. Roedd y darlithwyr yn egnïol iawn yn eu haddysgu gan roi’r ddealltwriaeth orau i mi o ddysgu ac addysgu.
“Roedd y cwrs yn cynnwys 4 piler addysg – Seicoleg, Athroniaeth, cymdeithaseg a gwleidyddiaeth. Roedd yn darparu ar gyfer trafodaethau a dealltwriaeth o’r math o addysgwyr sy’n bodoli, yr addysgwyr yr oeddem ni am fod a sut y gallen ni gael effaith ar fywydau.”
Dywedodd Sam fod y cwrs wedi’i baratoi’n dda i ddilyn gyrfa o fewn y sector addysg. Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn addysgu, symudodd i Prospero Teaching, ble mae bellach yn helpu athrawon i ddod o hyd i waith.
“Roedd y cwrs ei hun wedi gadael i mi gymryd fy nghamau nesaf at ddod yn athro cymwysedig; caniataodd i mi feithrin dealltwriaeth o sut mae addysg yn gweithio, sut mae addysg yn effeithio ar gymunedau, unigolion a chymdeithasau a chaniataodd i mi lunio f’ideolegau unigol ynghylch y grefft o ddysgu.”
Prif nodau Sam yn Prospero Teaching yw helpu myfyrwyr i ddod o hyd i swyddi rhan-amser yn Gynorthwywyr Addysgu, Cynorthwywyr Cymorth Dysgu a Goruchwylwyr Cyflenwi. Mae’r rolau hyn yn cynnig profiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, gan ganiatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’u gwybodaeth ddamcaniaethol mewn lleoliadau addysgol. Ychwanega:
“Ar hyn o bryd rwy’n gweithio’n Ymgynghorydd Rheoli Recriwtio AAA. Yn sgil f’astudiaethau mae gen i ddealltwriaeth fanwl o faterion cymdeithasol ac anghydraddoldebau sy’n fater trafod allweddol o fewn maes AAA. Mae wedi caniatáu i mi gael f’ystyried yn arbenigwr yn fy maes, ac yn unigolyn sy’n gallu ychwanegu gwerth mawr i’m cleientiaid, nid yn unig drwy eu cyflenwi nhw â staff addysgu cymwysedig ac o ansawdd, ond hefyd ag ail farn gyda golwg o’r tu allan ynghylch llawer o’r materion sy’n eu hwynebu nhw o ddydd i ddydd.”
Un o’r nodweddion arbennig am y rhaglenni gradd Astudiaethau Addysg yn PCYDDS yw eu hamserlennu hyblyg a’u dull dysgu cyfunol. Mae’r dyluniad hwn yn galluogi myfyrwyr i gael profiad â thâl mewn ysgolion tra maen nhw’n cwblhau eu hastudiaethau. Drwy weithio’n Gynorthwywyr Addysgu, Cynorthwywyr Cymorth Dysgu a Goruchwylwyr Cyflenwi, gall myfyrwyr ennill incwm ac adeiladu sylfaen gref o sgiliau ymarferol.
Mae Sam yn ymweld â’r brifysgol yn rheolaidd i roi anerchiadau i fyfyrwyr ar y cyrsiau Astudiaethau Addysg, ac mae’n teimlo ei fod yn rhoi yn ôl.
“Rydym ni wedi gallu creu cwlwm sy’n caniatáu i ni roi cyfle i fyfyrwyr addysg cyfredol gael profiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth a chael eu talu am hynny.”
Meddai Laura Hutchings, Cyfarwyddwr Rhaglen y rhaglenni Astudiaethau Addysg yn PCYDDS:
“Mae’r profiad sydd i’w gael drwy’r rolau hyn yn amhrisiadwy. Nid yn unig y mae’n cyfoethogi CVs y myfyrwyr, mae hefyd yn rhoi blas go iawn iddyn nhw ar sut beth yw bod yn yr ystafell ddosbarth. Mae hyn yn hanfodol i’r rheini sy’n bwriadu cwblhau TAR a dod yn athrawon cymwysedig ar ôl y cwrs. Rydym yn deall bod angen i fyfyrwyr weithio’n aml tra maen nhw’n dilyn eu rhaglenni gradd, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol presennol. Mae cofrestru gydag asiantaethau megis Prospero yn caniatáu i fyfyrwyr gael profiad gwaith â thâl sy’n berthnasol i’w rhaglenni gradd.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael profiad perthnasol mewn addysg, cysylltwch â Prospero Teaching neu ewch i’w gwefan.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Astudiaethau Addysg a chyrsiau Addysg Gynhwysol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ewch i:
Astudiaethau Addysg (Llawn Amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Addysg Gynhwysol (Rhan-amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Addysg Gynhwysol (Llawn Amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476