Cau'r Bwlch Sgiliau: Cam Tyngedfennol i’r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru
Mae’r diwydiant adeiladu yng Nghymru ar drobwynt. Gyda dros 9,000 o weithwyr ychwanegol yn ofynnol erbyn 2027, mae’r angen i adeiladu cartrefi gwell a mwy effeithlon yn dod yn fwyfwy taer. Gwnaeth lansio , cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a 23 o landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ar Ionawr 15, dynnu sylw at raddfa’r her hon a’r cyfle i ail-lunio’r sector trwy gydweithio ac arloesi. Yma mae Gareth Wyn Evans, Pennaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn rhannu ei farn ar ddyfodol y diwydiant a’r llwybr hanfodol at lwyddiant:
Mynd i’r afael â Heriau Ansawdd a Chynhyrchiant
Mae ansawdd yn greiddiol i’r mater hwn. Mae crefftwaith gwael yn parhau i rwystro cynnydd, gyda diffygion ac aneffeithlonrwydd yn dominyddu’r sector adeiladu. Dengys data o adroddiadau diwydiant bod materion fel bylchau inswleiddio, gollyngiadau aer, a philenni adeiladau sydd wedi’u gosod yn wael, ymhlith y diffygion adeiladu mwyaf cyffredin. Mae’r rhain nid yn unig yn tanseilio effeithlonrwydd ynni ond hefyd yn cynyddu costau, yn erydu hyder cwsmeriaid, ac yn effeithio ar wydnwch hirdymor cartrefi.
I ychwanegu at hyn, mae adroddiad diweddar () yn tynnu sylw at y ffaith bod 79% o’r costau sy’n gysylltiedig â gwallau yn deillio o weithgareddau adeiladu craidd, megis sgiliau masnach a dylunio. Mae hyn yn adlewyrchu problem ddyfnach gyda chynhyrchiant ac angen am fuddsoddiad sylweddol mewn datblygu sgiliau. Er mwyn cyrraedd y safonau uchel a ddisgwylir ar gyfer cartrefi newydd - boed hynny o ran aerglosrwydd, effeithlonrwydd ynni, neu ddeunyddiau cynaliadwy - rhaid symud tuag at wella ansawdd gwaith ar draws pob lefel o’r sector.
Cydweithio mewn Addysg: Llwybr Ymlaen
Mae datrys yr heriau hyn yn gofyn am ymdrech ar y cyd. Rhaid i ddarparwyr addysg a diwydiant gydweithio i ddatblygu cyfleusterau a rennir neu ranbarthol. Golyga hyn ddod â darparwyr addysg gymhwysol ynghyd ar draws AB ac AU, y llywodraeth, a sefydliadau fel Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) i greu dull unedig. Trwy gyfuno adnoddau, rhannu arbenigedd, a buddsoddi mewn technolegau blaengar, gallwn baratoi’r gweithlu ar gyfer technegau adeiladu perfformiad uchel mewn ffordd effeithlon o ran cost ac amser.
Yng Nghanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) PCYDDS, rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â’n partneriaid i hyrwyddo’r ddarpariaeth ddatblygol hon. Trwy raglenni fel yr Hyfforddiant Uwch ar Wella Adeiladwaith Ôl-osod (ERFIT), a’n gwerthusiad o berfformiad adeiladu, a chyrsiau aerglosrwydd, rydym yn cyfuno dysgu hybrid â phrofiad ymarferol a ddatblygwyd ochr yn ochr â phartneriaid yn y diwydiant i roi’r sgiliau angenrheidiol i weithwyr i ateb y galw cynyddol am dai cynaliadwy o ansawdd uchel yng Nghymru.
Mae darparwyr addysg yng Nghymru eisoes wedi cymryd camau breision mewn hyfforddiant technolegau adnewyddadwy, ond rhaid inni ehangu’r dull hwn i gynnwys sgiliau adeiladwaith adeiladu megis aerglosrwydd uwch, dylunio effeithlon o ran ynni, a dulliau adeiladu cynaliadwy a bioffilig pellach. Bydd y rhain yn hanfodol i gyflawni nodau mentrau megis Tai ar y Cyd, Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio sicrhau buddion amgylcheddol ac economaidd hirdymor.
Cyfleoedd Economaidd i Fusnesau Rhanbarthol
Nid yw cau’r bwlch sgiliau yn ymwneud â hyfforddi gweithwyr yn unig - mae hefyd yn ymwneud â chryfhau economi Cymru. Mae’r diwydiant adeiladu yn parhau i fod yn elfen hanfodol, gan gyfrannu’n sylweddol trwy gyflogaeth ac allbwn. Yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael drwy , mae’r sector yn cyflogi tua 77,500 o unigolion.
O ran allbwn economaidd, amcangyfrifwyd bod y diwydiant adeiladu yng Nghymru werth tua £7.8 biliwn yn 2023 (.) Mae’r sector yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi cwmnïau rhanbarthol, busnesau bach a chanolig, a microfusnesau, sef asgwrn cefn y diwydiant adeiladu yng Nghymru. Ond maent yn aml yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at hyfforddiant ac offer o ansawdd uchel. Trwy greu cyfleusterau a rennir a rhaglenni hyfforddi cydweithredol, gallwn sicrhau bod gan y busnesau hyn yr offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Bydd mynediad at weithwyr medrus yn galluogi cwmnïau llai i wneud cais am gontractau mwy, gwella cyflenwi gwasanaethau, a pharhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad sy’n esblygu’n gyflym. Bydd hyn yn cael effaith ehangol, gan ysgogi economïau lleol, creu swyddi, a denu buddsoddiad pellach yn y sector. Wrth i’r galw am adeiladu cynaliadwy dyfu, bydd busnesau sy’n mabwysiadu technegau arloesol nid yn unig yn diogelu eu hunain at y dyfodol ond hefyd yn datgloi cyfleoedd newydd, fel adeiladu ac ôl-osod cartrefi i fodloni safonau bron yn ddi-ynni.
Adeiladu ar gyfer y Dyfodol ac Ehangu’r Gronfa Dalent o Addysgwyr
Er mwyn gwirioneddol drawsnewid y diwydiant, mae angen i ni barhau i wthio addysg ar gyfer technegau adeiladu perfformiad uchel a sicrhau bod y sgiliau hyn yn dod yn rhan greiddiol o’r cwricwlwm adeiladu ac yn sgil allweddol ar draws y gweithlu.
Yn CWIC, rydym yn gweld canlyniadau diriaethol yr hyfforddiant hwn bob dydd. Mae rhaglenni fel ERFIT wedi grymuso gweithwyr i feistroli deunyddiau carbon isel, gweithredu technegau aerglosrwydd uwch, a chyfrannu’n uniongyrchol at ymgyrch Cymru dros adeiladu cynaliadwy. Trwy roi’r sgiliau hanfodol hyn i’r gweithlu, rydym yn mynd i’r afael â heriau’r diwydiant yn uniongyrchol ac yn helpu i adeiladu sector gwydn sydd wedi’i ddiogelu at y dyfodol.
Ni all hyn ddigwydd heb addysgwyr medrus. Mae gallu’r diwydiant i brif ffrydio technegau adeiladu cynaliadwy yn dibynnu ar ehangu’r gronfa o hyfforddwyr a all ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel. Mae buddsoddi ar y cyd â diwydiant wrth ddatblygu, recriwtio a chadw addysgwyr arbenigol yn hanfodol i sicrhau y gall y sector ateb y galw. Mae hefyd yn sicrhau bod datblygiadau mewn meysydd fel effeithlonrwydd ynni ac adeiladwaith adeiladu perfformiad uchel yn dod yn arferion cyffredin yn hytrach nag arferion arbenigol.
Gweledigaeth a Rennir
Mae mentrau fel Tai ar y Cyd yn darparu gweledigaeth bwerus o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Trwy alinio darparwyr addysg mewn AB ac AU, llywodraeth a sefydliadau fel CITB, gallwn gau’r bwlch sgiliau a chreu sector adeiladu ffyniannus. Mae’r ffocws nid yn unig ar adeiladu cartrefi gwell - mae’n ymwneud â sicrhau bod y cartrefi hynny’n cael eu hadeiladu’n effeithlon, yn gost-effeithiol ac yn gynaliadwy, gan ddarparu lleoedd o ansawdd uchel, iach a chost-effeithiol i berchnogion tai a thenantiaid eu galw’n gartref.
Mae cydweithrediadau fel y rhain hefyd yn darparu buddion economaidd ehangach. Bydd busnesau bach a chanolig a microfusnesau mewn gwell sefyllfa i dyfu, bydd economïau lleol yn elwa, a bydd Cymru’n sefyll allan fel arweinydd ym maes adeiladu cynaliadwy. Gyda’n gilydd, mae gennym gyfle i adeiladu nid yn unig gartrefi ond dyfodol cryfach a mwy gwydn i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru.
Nawr yw’r amser i weithredu - gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i gau’r bwlch, adeiladu gweithlu’r dyfodol, a sicrhau bod Cymru’n arwain y ffordd.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467071