ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Bethany Sexton, myfyrwraig BA Astudiaethau Ieuenctid ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, newydd gwblhau lleoliad tramor yn Fiji fel rhan o brosiect Grymuso Ieuenctid gyda’r elusen ‘Think Pacific’.

An image of Bethany Sexton out on placement in Fiji

Prif nod ei hamser tramor oedd trwytho ei hun yn niwylliant Fiji a chael profiad gwerthfawr mewn gwaith ieuenctid rhyngwladol.  Treuliodd Bethany ychydig dros dair wythnos mewn pentref gwledig yn Fiji, gan rannu eu hamser rhwng Nadi, Nananu yn Ra yn ogystal ag ymweld â Suva. 

Yn ystod ei lleoliad, roedd prif gyfrifoldebau Bethan yn ymwneud ag ymgysylltu â’r gymuned. Gweithiodd yn agos gyda dau bentrefwr lleol, gan gymryd rhan mewn 12 o weithdai a rhedeg dau ohonynt ochr yn ochr â’i thîm prosiect. 

Roedd rôl Bethany yn ymwneud â bod yn bresenoldeb gweithredol yn y pentref, gan ddysgu wrth ei theulu lletya. Meddai: 

“Dysgon ni lawer am eu diwylliant a threulion ni amser gydag aelodau ieuengaf eu cymuned, gan drafod yr hyn y gellir ei wneud i wella eu cymuned a sut y gallent ddefnyddio eu gofod cymunedol yn fwy effeithiol.” 

Fe wnaeth ei chyfraniadau feithrin cysylltiad dyfnach â’r ieuenctid lleol, gan eu hannog i ystyrid mentrau ystyrlon ar gyfer dyfodol eu pentref. 

A signpost of Nananu Village

Mae Bethany yn credu mai ei chyflawniad mwyaf oedd parhau i ymwneud yn llawn â’r profiad, waeth beth yw’r heriau. Cafodd brofiad a mewnwelediadau y mae’n bwriadu eu cario ymlaen yn ei bywyd personol a phroffesiynol. Un prosiect arbennig yr oedd hi’n teimlo oedd yn werth chweil oedd gweithio gyda’r bobl ifanc ym mhentref Nananu.  Ychwanegodd:

“Trafodon ni rai mentrau y byddai’n gredadwy ac yn fuddiol i’r pentref.  Roedd hyn yn bwysig gan eu bod yn gymuned glos, ond mae ganddynt neuadd gymunedol fawr, hyfryd y gellid ei defnyddio ar gyfer mwy o weithgareddau ar gyfer datblygiad personol a chymunedol.”

Ar lefel bersonol, roedd y lleoliad wedi caniatáu i Bethany fyfyrio ar ei chryfderau a meysydd ar gyfer twf. 

“Rwy’n meddwl ei fod wedi rhoi cyfle i mi werthuso’r sgiliau sydd gen i a lle mae angen i mi wella, yn enwedig mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Yn ogystal, roedd wedi rhoi cyfle i mi archwilio mwy i bwy ydw i a pha rinweddau a nodweddion personoliaeth sydd wedi creu’r person yr ydw i nawr a’r hyn yr hoffwn ei anelu ato yn y dyfodol.  

Rwy’n meddwl bod fy ngwydnwch a’m hamynedd wedi’u cryfhau o ganlyniad i gymryd rhan yn y prosiect hwn.”

Mae’r profiad wedi helpu Bethany mewn perthynas â’i chwrs Gwaith Ieuenctid PCYDDS i sylweddoli pa mor wahanol y mae ieuenctid yn cael ei ystyried mewn amgylchedd a sefyllfa ymarferol. Fe wnaeth ddarganfod bod grŵp oedran ieuenctid Fiji yn wahanol, bod cyfrifoldebau ieuenctid yn wahanol, a’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt yn dra gwahanol mewn sawl ffordd. 

Roedd Bethany wedi addasu’n dda yn ddiwylliannol i’r ffordd o fyw yn Fiji, gan ei chael hi’n gymharol hawdd i addasu i’r rhan fwyaf o bethau arferol.  Un o’r agweddau a gafodd yr effaith fwyaf ar Bethany oedd y diwylliant lleol a ffordd o fyw’r gymuned sy’n seiliedig ar ffydd.  Meddai:

“I mi, roedd cael fy nhrwytho mewn diwylliant sy’n seiliedig yn gryf ar ffydd yn brofiad cadarnhaol iawn.  Dysgais i lawer o sut maen nhw’n ymddwyn a sut maen nhw’n byw o ganlyniadau i’w ffydd, eu credoau a’u safbwyntiau.”

Meddai Hannah Clayton, Swyddog Symudedd Rhyngwladol PCYDDS: 

“Mae cyfleoedd megis lleoliad Bethany yn Fiji gyda Think Pacific yn amhrisiadwy i fyfyrwyr, gan gynnig y cyfle i ymdrwytho mewn diwylliannau gwahanol a phrofiad ymarferol mewn gwaith ieuenctid rhyngwladol.  Mae’r profiadau hyn yn ehangu eu dealltwriaeth o heriau byd-eang gan ddatblygu sgiliau allweddol megis gwytnwch, addasrwydd ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

“Diolch i gyllid Taith, mae cyfleoedd o’r fath bellach yn fwy hygyrch, gan ganiatáu mwy o fyfyrwyr i ddefnyddio eu dysgu academaidd mewn lleoliadau byd go-iawn a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd sy’n gwneud cyfraniad o bwys.”

Wrth edrych tuag at y dyfodol, mae Bethany yn credu y bydd y profiad hwn yn cael dylanwad arwyddocaol ar ei gyrfa mewn gwaith ieuenctid, ac mae wedi rhoi mewnwelediadau ymarferol iddi ei bod yn gallu cymhwyso i’w gweithgareddau academaidd.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon