ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Martha Lee - Cymdeithaseg (BSc Anrh)

Profiad PCYDDS Martha Lee

A picture taken by Martha Lee of herself smiling

Fy enw i yw Martha Lee ac rwy’n fyfyriwr aeddfed yn astudio Cymdeithaseg ac rwyf newydd gwblhau f’ail flwyddyn yn PCYDDS.

Trawais i ar y cwrs hwn ar ôl mynychu diwrnod agored yn 2022 ac roedd gen i ddiddordeb yn syth bin yn yr hyn roedd ganddo i’w gynnig.  Gan fod llawer o fy mhrofiad yn y sector gofal, roeddwn i’n gwybod y byddai Cymdeithaseg yn ehangu fy ngwybodaeth ac yn rhoi’r sgiliau i mi dyfu yn y sector iechyd a gofal.

Gwybodaeth Allweddol

Enw: Martha Lee

Rhaglen: BA Cymdeithaseg

Astudiaethau Blaenorol: NVQ Lefel 2 – Iechyd a Gofal Cymdeithasol  

Tref eich Cartref: Castellnewydd Emlyn  

Martha's Programme Name Experience

Profiad Cymdeithaseg Martha

Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS? 

Dewisais i’r Drindod Dewi Sant yn bennaf am ei bod yn agos at gartref ac am fy mod i eisoes wedi byw i ffwrdd ac roeddwn i’n mynd fel myfyriwr aeddfed, doeddwn i ddim eisiau mentro’n rhy bell. Hefyd roeddwn i’n hoffi’r ffaith ei bod yn eithaf bach, ac rwy’n meddwl mai dyma beth sydd wedi’i gwneud hi’n brofiad mor dda i mi.  Mae’r rhwydwaith cymorth a’r cymorth myfyrwyr yn rhagorol, ac am fod ein grŵp Cymdeithaseg yn gymharol fach, rydych chi’n dod i ‘nabod pawb yn dda iawn.    

Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?  

A bod yn onest, rwy’n gweithio cryn dipyn pryd nad ydw i’n astudio.  Fodd bynnag, pan na fydda i’n gwneud hynny, fy hoff beth i’w wneud yw mynd am dro hir gyda fy nghi.  Dwi ddim yn wir wedi gwneud unrhyw weithgareddau allgyrsiol! 

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?  

Ar hyn o bryd rwy’n eithaf di-glem am y peth, ond rwy’n ystyried efallai gwneud gradd Meistr.  Roeddwn i’n wir yn meddwl na fyddwn i byth yn mynd yn ôl i mewn i addysg ar ôl cwympo allan o’r chweched dosbarth, ond rwy’n mwynhau fy nghwrs yn fawr a’r profiadau rwyf wedi’u cael hyd yn hyn. Mae gen i ddiddordeb mewn mynd i mewn i waith cymdeithasol neu’r gwasanaeth prawf, ond dwi heb benderfynu eto. Mae astudio Cymdeithaseg wedi ehangu fy ngwybodaeth mewn cynifer o feysydd gwahanol ac wedi rhoi sylw i faterion systemig nid yn unig yn y sector gofal cymdeithasol ond ar draws y gymdeithas i gyd.  Er nad yw hyn wedi bod o help uniongyrchol i mi yn fy ngwaith, yn sicr mae wedi f’annog i feddwl amdano’n fwy yn ogystal â rhoi cipolwg i mi ar feysydd ble efallai yr hoffwn i chwilio am swydd yn y dyfodol.   

Beth oedd eich hoff beth am Gymdeithaseg?

Fy hoff beth am astudio Cymdeithaseg yw ein bod ni’n edrych ar gynifer o bynciau.  Mae’n ddiddorol clywed safbwyntiau pobl a chael trafodaeth agored mewn darlithoedd (mae digon o gyfleoedd i ddadlau!). Yn ogystal â hyn, mae’r darlithwyr yn anhygoel o wybodus a chefnogol.   Mae cymdeithaseg yn cwmpasu cynifer o agweddau ar fywydau pobl sy’n aml yn ei gwneud yn berthnasol iawn, sef beth sy’n ei gwneud mor ddiddorol.   

Beth yw eich hoff beth am Gampws Caerfyrddin?

Fy hoff beth am gampws Caerfyrddin yw nad yw’n rhy fawr! Rwyf wedi ymweld ag amryw o gampysau prifysgol yn y gorffennol a theimlo bod popeth yn llethol. Mae popeth o fewn pellter cerdded ac yn ddigon hawdd i gael hyd iddo.  Ac os ewch chi ar goll, mae pawb yn gyfeillgar a byddant yn dangos y ffordd iawn i chi.   

Wnaethoch chi ddod i PCYDDS trwy lwybr arall?

Des i’n fyfyriwr aeddfed ar ôl bod allan o addysg am bron iawn 10 mlynedd.