Cyflwyniad
Bydd ffioedd dysgu ar gyfer ôl-raddedigion yn berthnasol i unrhyw fyfyrwyr sy’n gwneud cais o’r DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw ac Iwerddon.
Dylai myfyrwyr tramor a’r UE ymweld â’n tudalennau ffioedd dysgu rhyngwladol.
UK Home
Ffioedd Cwrs Ôl-raddedig a Addysgir (PGT)
Ein ffi dysgu llawn-amser yn y DU/cartref ar gyfer 2025/26 yw £7,800 y flwyddyn.
Mae hyn yn cynnwys cyrsiau meistr fel MA, MSc, MBA a DBA.
Ein ffi dysgu ar gyfer astudio ar-lein yw £6,800 y flwyddyn.
Mae gan gyrsiau eraill fel TAR, tystysgrifau ôl-raddedig a diplomâu ôl-raddedig ffioedd ansafonol.
Ffioedd Cwrs Ymchwil Ôl-raddedig (PGR)
Mae gan ein cyrsiau ymchwil ôl-raddedig ffi ansafonol.
Gweler ein Hamserlen Ffioedd Dysgu am restr lawn o ffioedd ansafonol.
Ariannu eich Astudiaethau
Ariannu eich Astudiaethau
Rydym yn deall bod ariannu eich addysg yn rhan allweddol o’ch taith prifysgol. P’un a ydych chi’n fyfyriwr sy’n byw yng Nghymru, yn dod o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, rydym yma i’ch cefnogi i lywio agweddau ariannol eich astudiaethau.