ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation
Date(s)
-

Ynglŷn â'r digwyddiadau hyn

Mae ein digwyddiadau Llwybr at Lwyddiant: Grymuso Dysgwyr yn Y Drindod Dewi Sant wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer ymgeiswyr sy’n trosglwyddo i’r brifysgol. Rydyn ni’n yn deall y gall symud i amgylchedd dysgu newydd fod yn gyffrous ac yn heriol, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Mae trosglwyddo’n achosi cymysgedd o emosiynau - cyffro, gobaith, straen a phryder. Mae’r teimladau hyn yn hollol normal. Nod ein digwyddiadau ni yw eich helpu chi i reoli’r emosiynau hyn, troi heriau’n gyfleoedd a’ch grymuso i fod y dysgwr annibynnol, llwyddiannus y gwyddom ni y gallwch chi fod.

Pwy ddylai ddod

Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u hanelu’n bennaf at:

  • Ymgeiswyr ASC: Unigolion â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig.
  • Ymadawyr Gofal: ymgeiswyr sydd wedi bod mewn gofal maeth neu’r system ofal ac sy’n trosglwyddo i fyw’n annibynnol ac addysg.
  • Ymgeiswyr Aeddfed sy’n Dychwelyd i Addysg: Unigolion sy’n dychwelyd i addysg, yn aml sy’n cydbwyso astudiaethau â chyfrifoldebau eraill fel gwaith neu fywyd teuluol.

Ymgeiswyr Prifysgol Cenhedlaeth Gyntaf: Y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i’r brifysgol.

Beth i'w ddisgwyl yn y digwyddiad

Yn y digwyddiad hwn, byddwch chi’n:

  • Dysgu am y gwasanaethau cymorth yn y brifysgol ac yn cwrdd â rhai o’r staff a fydd yma i’ch helpu.
  • Darganfod y campws a’r amgylchedd dysgu.
  • Cael clywed gan fyfyrwyr sydd wedi profi newidiadau tebyg. Ar un adeg roedden nhw’n teimlo’n ansicr ac yn bryderus ond bellach maen nhw wedi dod yn ddysgwyr annibynnol llwyddiannus.
  • Cwrdd ag ymgeiswyr eraill ac yn cael cyfle i ddechrau adeiladu eich rhwydwaith cyfoedion.
  • Archwilio sgiliau hanfodol ar gyfer sicrhau annibyniaeth.

Erbyn diwedd y digwyddiadau hyn, dylech chi deimlo’n fwy hyderus a pharod ar gyfer trosglwyddo i fywyd prifysgol.

Amserlen y digwyddiad

Mae gennych chi’r opsiwn i fynd naill ai i sesiwn bore neu brynhawn ar unrhyw gampws sy’n cynnal digwyddiad. 

Cynhelir y sesiynau rhwng 10:00 AM a 1:30 PM, a 1:30 PM a 5:00 PM.

Sylwer y bydd y ffurflen archebu yn cau wythnos cyn y digwyddiad. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno!

Lleoliad

ºÚÁϳԹÏÍø
IQ Building
Swansea Waterfront
Swansea
SA1 8EW
Y Deyrnas Unedig

Rhannwch y digwyddiad hwn

Tagiau