Profiad PCYDDS Cameron
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Cameron James
Rhaglen: Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (BSc)
Profiad wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Cameron
Profiad wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Cameron

Beth oedd eich hoff beth am campws Caerfyrddin?
Mae nifer o bethau da am y campws, mae gan y campws lawer o natur o’i gwmpas, a mynediad i gyfleusterau da. Hefyd mae bod o gwmpas llawer o ddiwylliant Cymreig ar y campws hwn wedi gwella fy siarad Cymraeg gan mai dyma fy ail iaith. Ond y peth gorau yw’r staff, dwi’n teimlo’n lwcus i fod yma oherwydd nhw.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Yr awyrgylch positif. Rwyf wedi gweithio mewn swyddi amrywiol ers gorffen ysgol, wedi rhoi cynnig ar grefft yn coleg ddwywaith. Ond roeddwn i eisiau gweithio ym maes chwaraeon ac ymarfer corff yn y ddyfodol, diffyg hyder yn fy atal. Mynychais ddiwrnod agored yn CSG, a arweiniodd at daith campws yn PCYDDS Caerfyrddin. O’n i’n disgwyl fy ail blentyn yn fuan hefyd, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n cael trafferth, ond roedd y staff yn positif, yn ddeallus, ac roedd fy holl hunan-amheuaeth wedi diflannu pan gafodd fy annog ganddyn nhw, fe wnes i gais. Wrth astudio’r hyn rwy’n ei fwynhau, rwy’n dod adref at fy nheulu yn llawer hapusach y dyddiau hyn ac mae hynny’n bwysig i mi
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Gwneud defnydd o’r cyfleusterau, pwll y brifysgol lle dysgais i nofio yn 24 mlwydd oed, y neuadd chwaraeon, a’r campfeydd. Byddwn wrth fy modd pe bawn i’n byw yn agosach at y campws, oherwydd rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y staff a’r awyrgylch cyfeillgar yn y lleoedd hyn.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Rwy’n ystyried sawl llwybr. Rwy’n hoffi’r syniad o astudio ôl-raddedig ar ôl y 3edd flwyddyn. Yn y tymor hir, rhyw fath o waith dadansoddi 1-ar-1 gydag athletwyr. Ond mae fy nodau’n parhau i newid wrth i mi ddysgu mwy am wahanol feysydd astudio, felly rwy’n cadw fy opsiynau ar agor.
Beth oedd eich hoff beth am Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ?
Mae’r dosbarthiadau yn fach (yn amrywio rhwng 5-25 o fyfyrwyr), mae hyn yn creu cyfleoedd ar gyfer trafodaethau dosbarth a chael mwy o brofiad yn y sesiynau ymarferol. Yn y sesiynau hyn, mae gyda ni hefyd fynediad i offer gwych y gallwn ei ddefnyddio ar gyfer ein gwaith cwrs neu ar gyfer ymarfer beth ni wedi’i ddysgu.

A fyddech chi'n argymell PCYDDS a pam?
Byddwn yn i wir yn argymellu PCYDDS yn fawr. Mae’r grwpiau llai yn rhoi cyfle ar gyfer dysgu mwy deniadol, yn ystod sesiynau rwy’n teimlo’n gyfforddus i gofyn cwestiynau i ddarlithwyr i wella fy nealltwriaeth o’r pynciau.
Mae’r brifysgol o hyd yn ystyried fy amgylchiadau ac yn fy nghefnogi’n fawr yn fy ngwaith ac fy nhatblygiad personol. Mae’r staff dwi wedi cwrdd ar y cwrs yn bobl rydw i’n gallu ymddirio, felly dwi byth yn petruso cyn gofyn am help.
Mae’r dysgu yma wedi fy natblygu mewn ffyrdd nad oeddwn i erioed wedi meddwl y gallwn, sydd wedi bod o mantais i mi y tu allan i’r brifysgol hefyd.